Porthmadog: Heddwas i wynebu achos ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Richard Williams yn gadael y llys
Disgrifiad o’r llun,

Mae PC Richard Williams yn wynebu dau gyhuddiad mewn cysylltiad ag arestio dyn ym Mhorthmadog ym mis Mai y llynedd

Bydd heddwas gyda Heddlu'r Gogledd yn sefyll ei brawf ym Medi wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddyn yn ystod arestiad.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon plediodd Richard Williams, 42, yn ddieuog i ddau gyhuddiad mewn cysylltiad ag arestiad Steven Clarke ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023.

Mae PC Williams yn gwadu dau gyhuddiad, un o dagu bwriadol ac un o ymosod gan achosi niwed corfforol.

Clywodd y llys fod disgwyl i'r achos llys bara am bedwar diwrnod, gan gychwyn yng Nghaernarfon ar 16 Medi.

Mae Richard Williams wedi ei wahardd o'i waith gyda Heddlu Gogledd Cymru.

Pynciau cysylltiedig