Cais i restru adeilad Ysgol Bro Hyddgen yn 'boncyrs'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro HyddgenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cais cynllunio anffurfiol ei wneud i adeiladu campws newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen yn haf 2023

Mae'n bosib y bydd oedi i gynlluniau i adeiladu ysgol newydd gwerth £49m ym Mhowys, wedi i gais gael ei wneud i restru'r adeilad.

Mae Cadw, gwasanaeth hanesyddol ac amgylcheddol Llywodraeth Cymru, wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cais i restru Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Cafodd cais cynllunio anffurfiol ei wneud i adeiladu campws newydd ar gyfer yr ysgol 3-16 oed yn haf 2023.

Y gobaith oedd y bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ac yn agor ei drysau i ddisgyblion yn 2026.

Er nad yw'r cais cynllunio wedi'i gyflwyno'n ffurfiol eto, cynhaliwyd sesiynau yn yr ysgol ym mis Rhagfyr i ganiatáu i bobl drafod y cais fel rhan o ymgynghoriad statudol Cyngor Sir Powys.

Ond, fe allai'r cais newydd i gofrestru'r adeilad achosi rhwystr yn y cynllun.

'Sefyllfa hurt bost'

"Cawsom geisiadau i ystyried Ysgol Bro Hyddgen i'w rhestru ym mis Tachwedd 2023 ac mae'r cais yn cael ei ystyried ar hyn o bryd," meddai llefarydd ar ran Cadw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan bod y cais i Cadw yn "boncyrs"

Mae Elwyn Vaughan, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol a chynghorydd Plaid Cymru, wedi dweud bod y cais i Cadw yn "hurt bost".

"Mae'r boiler yn torri'n aml, llechi dod oddi ar y to, dŵr yn dod mewn, cost enfawr ar wresogi ac mae rhyw ffŵl isio cofrestru'r lle er fod digon o esiamplau tebyg ar hyd a lled Maldwyn, a thrwy 'neud hynny amddifadu ein pobl ifanc o adeilad ac adnoddau haeddiannol y ganrif yma. Boncyrs," meddai, mewn post ar Facebook.

Beth yw'r cynlluniau?

Cafodd y cynnig ar gyfer campws yr ysgol newydd ei grybwyll am y tro cyntaf yn 2017, ond mae problemau gwahanol wedi achosi oedi yn barod.

Roedd prosiect gwreiddiol Bro Hyddgen wedi dioddef o ganlyniad i gwymp cwmni adeiladu Dawnus yn 2019, arweiniodd at y cynigion diwygiedig mwy o faint.

Ym mis Hydref 2022, penderfynwyd lleihau'r cynlluniau ar gyfer campws yr ysgol newydd.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut fydd ysgol newydd Bro Hyddgen yn edrych

Roedd disgwyl i'r campws newydd gynnwys cyfleusterau llyfrgell a hamdden ar gost o ryw £48m yn 2020, ond erbyn mis Hydref 2022, cododd y gost yn sylweddol i £66m.

Bydd dileu'r ganolfan hamdden o'r prosiect yn golygu bod y costau'n disgyn yn ôl i £49.12m, gyda 65% o'r cyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr achos busnes diwygiedig ei gytuno gan Lywodraeth Cymru fis Ionawr diwethaf.

Pynciau cysylltiedig