Penrhyndeudraeth: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Penrhyndeudraeth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu yn dal yn amlwg yn yr ardal ddydd Iau

Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes ym Mhenrhyndeudraeth.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i eiddo yn y dref toc cyn 12:00 ddydd Mercher.

Ychwanegodd y llu eu bod wedi canfod corff dynes yno.

Dywedon nhw fod dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae ymchwiliad y llu yn parhau.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn ei drin fel "digwyddiad unigol", ac nad oes rheswm i'r gymuned ehangach boeni.

Pynciau cysylltiedig