Cannoedd o gleifion MS wedi colli allan ar feddyginiaeth

  • Cyhoeddwyd
Rachelle Ledsam
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rachelle Ledsam, o Sir Gaerffili, ei diagnosis yn 2009 ac mae hi wedi bod yn disgwyl am y cyffur fampridine ers 2019

Mae'n bosib fod cannoedd o gleifion gyda sglerosis ymledol (MS) wedi colli allan ar feddyginiaeth a allai wella eu bywydau, yn ôl ombwdsmon.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fethu â chynnig fampridine i glaf er ei fod wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fel triniaeth ar gyfer y GIG ym mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd Rachelle Ledsam, 57, sydd ag MS: "Ro'n i'n drist iawn i ddechrau - ond nawr dwi'n flin oherwydd dwi'n meddwl 'pam na fedra i ei gael e'?"

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud ei fod yn "gweithio trwy gynllun" i gyflwyno fampridine.

'Hyd at 500 o gleifion'

Yn ystod ei hymchwiliad, fe wnaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Michelle Morris amcangyfrif y gallai hyd at 500 o gleifion yn ardal Aneurin Bevan fod wedi bod yn gymwys ar gyfer y driniaeth.

Dechreuodd Ms Morris ei hymchwiliad ar ôl i Ms Ledsam gwyno fod y bwrdd iechyd wedi methu â rhoi'r feddyginiaeth iddi.

Gall fampridine helpu i wella gallu cerdded rhai cleifion MS, meddai'r GIG.

Cafodd Ms Ledsam, o Sir Gaerffili, ei diagnosis yn 2009 ac mae hi wedi bod yn disgwyl am y cyffur ers 2019.

Ffynhonnell y llun, Rachelle Ledsam
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw e ddim yn iawn, dyw e ddim yn deg o gwbl," meddai Rachelle Ledsam

Mae Ms Ledsam yn dweud fod doctoriaid wedi dweud wrthi y byddai hi'n elwa o gymryd y cyffur, cyn dweud yn ddiweddarach nad oed ganddynt y staff i gynnig y driniaeth.

"Pam na fedra i gael e? Pam na fedra i drio fe? Dwi'n meddwl dylai'r byrddau iechyd dros Gymru i gyd wneud e'r un amser. Dylai pawb yng Nghymru allu cael e," meddai.

"Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi bod yn anobeithiol a dwi'n meddwl am faint o bobl sydd yn yr un sefyllfa â fi.

"Mae'n newid enfawr - os mae'n gweithio fe fydd e'n helpu fy ngherdded, fy malans, fy hyder.

"Beth os yw fy MS yn mynd yn waeth ac yn waeth, ac wedyn na fydd e'n gweithio i fi - dyw e ddim yn iawn, dyw e ddim yn deg o gwbl."

Dywedodd Ms Ledsam y byddai'r cyffur yn gwella ei hansawdd bywyd.

"Er mwyn gallu gwneud y pethau bach fel camu allan o fy nrws ffrynt a mynd i'r siop a gweld fy ffrind dros y ffordd," meddai.

Oedi yn 'annerbyniol'

Er bod fampridine wedi'i gymeradwyo dros bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth yr ombwdsmon ganfod nad oed y bwrdd iechyd wedi'i gynnig, er bod meddyginiaethau newydd fel arfer yn cael eu cynnig o fewn 60 diwrnod o'r cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Ms Morris bod yr oedi yn "annerbyniol", gan argymell dylai'r bwrdd iechyd ymddiheuro a sefydlu cynllun gweithredu ar fyrder, gydag amserlenni, ar gyfer darparu fampridine.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi derbyn canfyddiadau Ms Morris ac wedi cytuno i weithredu'r argymhellion, gan ychwanegu y byddai'n cysylltu â Ms Ledsam i ymddiheuro "am y trallod y mae'n rhaid bod hyn wedi'i achosi iddi".

Ychwanegodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn gweithio trwy gynllun i weld sut y gallwn ni weithredu argymhellion yr ombwdsmon ynglŷn â chyflwyno fampridine yn ein hardal."