Penrhyndeudraeth: Rhyddhau dyn ar ôl marwolaeth dynes 53 oed

  • Cyhoeddwyd
Penrhyndeudraeth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu yn dal yn amlwg yn yr ardal ddydd Iau

Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth dynes yng Ngwynedd wedi ei ryddhau heb gyhuddiad.

Roedd yr heddlu wedi arestio'r dyn 46 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yn wreiddiol, yn dilyn y digwyddiad ym Mhenrhyndeudraeth.

Ond cadarnhaodd yr heddlu yn ddiweddarach ddydd Iau ei fod wedi ei ryddhau.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i eiddo yn y dref am tua 12:00 ddydd Mercher, yn dilyn marwolaeth dynes 53 oed.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus bellach, yn dilyn archwiliad post mortem.

Ychwanegodd yr heddlu bod y dyn bellach yn helpu swyddogion gyda'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig