'Rhybuddion ers degawd i gyflymu profion diagnostig'

  • Cyhoeddwyd
Menyw'n cael sganFfynhonnell y llun, Phil Boorman

Gyda Llywodraeth Cymru'n cydnabod heriau cyrraedd targed i leihau'r niferoedd sy'n aros dros ddeufis am brofion diagnostig, mae cyfarwyddwr elusen ganser yn dweud ei bod hi'n argyfwng ar y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl Lowri Griffiths o'r elusen Tenovus mae'n rhaid gweithredu nawr er lles cleifion Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn "rhoi plasteri" ar y GIG yn hytrach nag adolygu gwasanaethau diagnostig, meddai wrth raglen Newyddion S4C.

Mae hi hefyd yn dweud bod yna rybuddion ers degawd a mwy ond bod dim paroatadau wedi eu gwneud.

Mae Llywodraeth Cymru'n cyfaddef bod cyrraedd eu targed o gyflymu profion diagnostig erbyn diwedd mis Mawrth am fod yn "anodd iawn".

Rhestrau aros annerbyniol

Y llynedd, derbyniodd y DJ Gareth Potter brawf am ganser y coluddyn.

Ganol mis Ionawr 2023, derbyniodd lythyr yn ei alw am archwiliad colonosgopi.

24 Mawrth oedd dyddiad yr archwiliad, sy'n golygu ei fod wedi gorfod aros ychydig yn hirach na tharged y llywodraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyfnod o orfod aros am ddiagnosis yn anodd, medd Gareth Potter

Cafodd wybod fod ganddo ganser y coluddyn. Mae wedi derbyn triniaeth chemotherapi, radiotherapi a llawdriniaeth i dynnu ei goluddyn mawr dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae bellach yn gwella gartref.

Tra'n ddiolchgar am ei driniaeth ac am y gofal y mae wedi ei dderbyn gan staff y gwasanaeth iechyd, mae'n cyfaddef bod aros am archwiliadau a thriniaethau yn anodd i gleifion.

"Mae problemau mawr o fewn i'r gwasanaeth iechyd - ry'n ni gyd yn gwybod hynny," dywedodd. "A'r rhestrau aros - dy'n nhw ddim yn dderbyniol."

"Mae canser yn rhywbeth sydd yn datblygu dros amser. Mae'n rhaid trin e mor gyflym â phosib."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru darged i gyflymu profion diagnostig i wyth wythnos erbyn y gwanwyn 2024.

Maen nhw nawr yn cyfaddef bydd cyrraedd y targed hwnnw yn "anodd iawn".

Yn Nhachwedd 2019, roedd 3,883 o achosion lle bu'n rhaid aros mwy nag wyth wythnos am ganlyniad prawf diagnostig - 5% o'r holl brofion.

Mae'r ffigyrau diweddaraf, ar gyfer Tachwedd 2023 yn dangos bod y ffigwr nawr yn 47,231 - 40% o'r holl brofion diagnostig.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gyfleoedd i fynd i'r afael â'r sefyllfa pan roedd "mwy o arian a mwy o amser", medd Lowri Griffiths

Yn ôl Lowri Griffiths, fe ddylai paratoadau fod wedi eu gwneud flynyddoedd yn ôl i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn galw am brofion diagnostig.

"Ddylen ni fod wedi delio â hwn pan oedd gyda ni mwy o arian a mwy o amser," dywedodd.

"Roedden ni'n gwybod bod hwn mynd i ddigwydd a nawr ni yn y sefyllfa hynny."

"Tan ein bod ni'n dod nôl â rhywbeth newydd - mwy o weithlu, mwy o suites endosgopi a mwy o bobl i ddelio gyda'r niferoedd uwch, rydyn ni mynd i barhau fel ydyn ni."

'Amseroedd aros ddim lle hoffen ni'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod nifer y cyfeiriadau ar gyfer canser tybiedig wedi cynyddu 49% dros y tair blynedd diwethaf a'u bod nhw'n blaenoriaethu cleifion canser.

"Mae hynny wedi cyfrannu at gynyddu cyfnodau aros am brofion diagnostig dros wyth wythnos, ond mae cwymp wedi bod o ran oedi ar gyfer endosgopi," meddai.

"Dyw amseroedd aros ddim lle hoffen ni iddyn nhw fod ond ry'n ni'n cefnogi'r GIG i gynyddu capasiti ar gyfer profion diagnostig ac wedi buddsoddi £15m er mwyn cynyddu gweithlu diagnostig, cyfleusterau a gwella mynediad i endosgopi."