Caerdydd: Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn ymosodiad difrifol

  • Cyhoeddwyd
Ibrahim YassinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ibrahim Yassin ei ddisgrifio fel dyn "hael a thirion o fewn ei gymuned"

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn 64 oed fu farw yn dilyn ymosodiad difrifol yn Nhre-biwt yng Nghaerdydd.

Mae'r dyn wedi ei gydnabod yn ffurfiol fel Ibrahim Yassin ac mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Cafodd yr heddlu eu galw i'w eiddo ar Ffordd Belmont toc wedi 09:00 fore Sul, yn dilyn adroddiad o ymosodiad difrifol.

Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Roedd y dyn 38 oed wedi gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ond mae bellach yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad tua 09:00 fore Sul

Wrth roi teyrnged i Mr Yassin, dywedodd ei deulu ei fod yn "dad ffyddlon" a oedd wedi bod yn "ddewr ers colli ei wraig yn 2008".

Mae'n gadael 11 o blant.

Fe ychwanegon nhw ei fod yn cael ei gydnabod fel dyn "hael a thirion o fewn ei gymuned, yn barod i estyn llaw a rhannu cariad lle bynnag yr aeth".

Pynciau cysylltiedig