Teyrngedau i J Beverley Smith, hanesydd Llywelyn ein Llyw Olaf

  • Cyhoeddwyd
J Beverley SmithFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae nifer o deyrngedau wedi'u rhoi i'r Athro J Beverley Smith, hanesydd Llywelyn ein Llyw Olaf, sydd wedi marw yn 92 oed.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd llefarydd ar ran Gwasg Prifysgol Cymru ei fod "yn un o brif haneswyr Cymru ac awdur nifer fawr o gyfrolau ac erthyglau pwysig".

Ychwanegodd y llefarydd bod ei gyfrol 'Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru' yn "astudiaeth arloesol".

Mae eraill wedi disgrifio'r gyfrol fel yr "unig fywgraffiad safonol" o Llywelyn ein Llyw Olaf.

Fe gafodd y gyfrol ei chyhoeddi gyntaf yn Gymraeg yn 1986 ac yna yn Saesneg yn 1998 a 2014.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Beverley Smith (dde) yn agoriad Llyfrgell ac Ystafell Ymchwilio Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym Mhlascrug yn 1996

Cafodd yr Athro Smith, a oedd yn enedigol o Orseinon, ei addysg brifysgol yn Aberystwyth.

Wedi cyfnod yn y fyddin a chyfnod yn gweithio i Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru dychwelodd i Aberystwyth i weithio yn Adran Lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran Hanes y brifysgol yn y dref.

Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth bu'n darlithio i ddegau ar ddegau o fyfyrwyr a chyhoeddoedd ef a'i wraig, Dr Llinos Beverley Smith, yn helaeth ar Gymru'r Oesoedd Canol.

Yn 2001 fe olygodd y ddau ysgolhaig gyfrol swmpus ar Hanes Meirionnydd yn yr Oesoedd Canol.

Fe wnaeth yr Athro Smith gyhoeddi hefyd cyfrol ar y gwleidydd Jim Griffiths.

'Elwa ar ei ysgolheictod'

Roedd yr hanesydd Dr D Huw Owen, Aberystwyth, yn un o'i fyfyrwyr ymchwil cyntaf ac wrth siarad â Cymru Fyw disgrifiodd yr Athro Smith fel ysgolhaig triw a chydwybodol.

"Mi ges i'r fraint o gael fy nghyfarwyddo ganddo i ysgrifennu traethawd ymchwil ar Arglwyddi Dinbych 1282-1543 - ac yn digwydd bod mae cyfrol sy'n seiliedig ar y gwaith hwnnw yn y wasg ar hyn o bryd.

"Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi elwa ar ei ysgolheictod ac hefyd wedi dod i'w adnabod yn ddiweddarach fel cymydog."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfrol J Beverley Smith ar Llywelyn ein Llyw Olaf wedi cael ei disgrifio yn "astudiaeth arloesol"

Yn 1972 fe gafodd J Beverley Smith ei benodi yn gyd-olygydd Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd a bu'n brif olygydd y cylchgrawn, a ddaeth wedyn yn Studia Celtica, rhwng 1996 a 2010.

Bu'n gwasanaethu sawl corff cyhoeddus - roedd yn aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1974 a 1984, bu'n aelod o Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru am dros 40 mlynedd ac yn gadeirydd arno o 1985-91.

Bu hefyd yn gadeirydd Comiswn Brenhinol Henebion Cymru ac yn gadeirydd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd.

"Roedd e'n ŵr hynod ddysgedig ac yn gyfaill agos a chefnogol i ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru," meddai Pedr ap Llwyd, Prifweithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'n gadael ei wraig Llinos a dau fab - Robert a Huw - a'u teuluoedd.

Pynciau cysylltiedig