Ffrwgwd wrth i ffermwyr brotestio ar ymweliad Drakeford
- Cyhoeddwyd
Roedd ffrwgwd rhwng protestwyr a staff diogelwch wrth i'r prif weinidog wneud ymweliad â'r gogledd-ddwyrain ddydd Mercher.
Mae tua 200 o brotestwyr, gyda 70 o dractorau, yn cynnal protest yn Y Rhyl yn erbyn cynlluniau amaethyddol Llywodraeth Cymru.
Mae'r brotest yn digwydd tra bod y prif weinidog Mark Drakeford a'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths yn y dref i agor canolfan beirianneg newydd Coleg Llandrillo yn swyddogol.
Fe wnaeth protestwyr wthio eu ffordd trwy giatiau'r coleg, a gwelwyd protestwyr a staff diogelwch yn gwthio'i gilydd wrth iddyn nhw ddilyn car Mr Drakeford.
Dyma'r brotest ddiweddaraf gan amaethwyr sy'n dadlau y bydd y system daliadau newydd, sy'n cynnwys camau i warchod yr amgylchedd, yn niweidiol i'w busnesau.
Mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud eto a bod y broses o ymgynghori ar y cynlluniau yn parhau.
Er mwyn cael mynediad i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd rhaid i ffermwyr ymrwymo i blannu 10% o'u tir â choed, a chlustnodi 10% arall fel cynefin i fywyd gwyllt.
Yn dilyn cyfarfod ddydd Llun gyda'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ble wnaethon nhw alw am newidiadau i'r cynllun, dywedodd arweinwyr undebau amaeth bod cymuned wledig Cymru mewn anrhefn ar hyn o bryd.
Mae rhai o sylwadau Mr Drakeford yr wythnos hon wedi ychwanegu at y tensiwn ymhlith ffermwyr.
Dywedodd bod y cynllun ond yn bodoli am fod ffermwyr wedi pleidleisio dros Brexit a bod dim hawl gan ffermwyr i wneud beth a mynnon nhw gydag arian cyhoeddus.
Gan Liam Evans, ein gohebydd yn y brotest
Mi oedd y dicter ymysg ffermwyr a'r gymuned amaethyddol yn glir o ddechrau'r brotest heddiw.
Mi oedd pob un nes i siarad 'efo nhw yn glir eu barn - doedden nhw ddim yn teimlo bod y llywodraeth yn eu deall nhw, na chwaith yn gwrando.
Roedd y sgrechfeydd a'r bŵio i'w clywed yn glir wrth i Mark Drakeford gyrraedd.
Wrth i nifer o brotestwyr redeg ar ei ôl, fe lwyddon nhw i wthio'r giatiau'n glir ac mi drodd y sefyllfa yn fwy heriol fyth wrth i ambell un wthio 'nôl a 'mlaen gyda swyddog diogelwch.
Mae'r hyn ddigwyddodd yn Y Rhyl yn benllanw wythnosau o densiwn rhwng amaethwyr a'r llywodraeth - gyda ffermwyr yn glir eu safbwynt bod angen i weinidogion eu gwerthfawrogi, neu mi fydd mwy o'r hyn welsom ni heddiw i ddod.
Un oedd yn y brotest oedd Rhys Jones, a ddywedodd bod angen i Mark Drakeford "wrando ar ffermwyr".
"Ni fel ffermwyr ifanc ydi dyfodol amaethyddiaeth ac os wneith o gario 'mlaen bydd o 'di rhoi ni gyd allan o fusnes.
"Mae gennym ni gymaint o challenges yn ein bywyd bob dydd. Mae'r red tape mae'r llywodraeth yn trio rhoi ar ni just am wneud pethau'n anoddach."
'Mi baffia i tan y diwedd'
Nid yw Bob Williams yn credu fod Mark Drakeford yn ystyried bywoliaeth ffermwyr.
"Dydi o'n poeni dim, mae o'n gorffen mewn ychydig bach.
"Tase ni'n cychwyn tynnu ei gyflog o i lawr, fysa fo ddim yn rhy hir yn dweud ei ddweud na 'se?
"'Di o ond yr un fath yn union a be da ni'n mynd drwydda fo ac mi baffia i tan y diwedd i wneud bywoliaeth i'm mab a'm merch."
Soniodd Rhys Davies am ba mor anodd mae'r swydd yn gallu bod yn barod.
"Da ni fyny oriau man y bore a hwyr yn nos i gadw y pobl ar y ffyrdd 'ma yn fyw, i gadw pobl ar y blaned ma'n fyw.
"Dio ddim yn hawdd."
Yn ystod sesiwn wythnosol cwestiynau'r prif weinidog yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd Rishi Sunak y bydd polisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru "yn dinistrio cymunedau amaethyddol".
Mewn ymateb i gwestiwn gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, fe ddisgrifiodd trywydd gweinidogion Cymru fel "y gwrthwyneb i'r hyn sydd ei angen".
Honnodd hithau bod Llywodraeth Cymru'n "benderfynol o orfodi ein ffermwyr allan o fusnes" yn sgil ei pholisïau'n ymwneud â Pharthau Perygl Nitradau (NVZ), delio â'r diciâu ymhlith gwartheg a materion cynaliadwyedd.
Honnodd hefyd y bydd y cynllun amaeth dadleuol yn arwain at golli swyddi a cholled o £2bn i economi Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "gweithio mewn partneriaeth â'r sector ffermio yn allweddol" ac mai "dyna pam mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i ddatblygu ar y cyd â ffermwyr".
"Mae'r cynllun yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a hoffem ddiolch i'r miloedd o ffermwyr sydd eisoes wedi ymateb ac wedi mynychu 10 sesiwn sioe deithiol Llywodraeth Cymru ledled y wlad.
"Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar y cynllun tan ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben ac rydym yn annog pawb i ymateb erbyn 7 Mawrth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2024