Caerdydd: Dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio tad i 11 o blant
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio tad i 11 o blant yng Nghaerdydd.
Bu farw Ibrahim Yassin, 64 ac o ardal Tre-biwt, ddydd Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Belmont toc wedi 09:00 fore Sul, yn dilyn adroddiad o ymosodiad difrifol.
Dywedodd yr heddlu y byddai Mujeeb Rahman Hassani, 38 ac o Dre-biwt, yn ymddangos yn y llys ddydd Iau wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae teulu Mr Yassin yn dal i gael cymorth swyddogion arbenigol, ac mae Heddlu De Cymru'n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024