Person yn yr ysbyty ar ôl tân wnaeth ddinistrio tŷ yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Tan LlanelliFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân Ac Achub y Canolbarth A'r Gorllewin

Mae person yn ei arddegau yn yr ysbyty yn dilyn tân sydd wedi dinistrio tŷ yn Llanelli "yn llwyr".

Cafodd chwe chriw o'r ardal eu galw i gartref ar stad Min y Môr am 18:28 dydd Mercher.

Dywedodd yr heddlu bod menyw wedi ei harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol a'i bod yn y ddalfa.

Nid yw anafiadau'r person ifanc yn peryglu eu bywyd, meddai'r heddlu.

Cafodd stop ei alw am 22:49 ond oedd rhaid i griw Llanelli ddychwelyd i'r tŷ am 00:31 ar ôl i'r tan ailddechrau yn y to.

Cafodd tri adeilad eu harolygu eto gyda chamerâu delweddu thermol am 05:00. Roedd y tân wedi diffodd erbyn hyn, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Fe fydd pobl a gafodd eu symud o dai cyfagos yn aros allan o'r adeiladau hynny am y tro.

Pynciau cysylltiedig