Cymru v Iwerddon mewn rhifau

  • Cyhoeddwyd
capteiniaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Capteiniaid Cymru, Peter O'Mahony a Dafydd Jenkins

Dydd Sadwrn, 24 Chwefror, mae Cymru yn wynebu taith heriol i Ddulyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Gareth Rhys Owen sy'n cymryd cipolwg ar rai o'r rhifau a'r ystadegau trawiadol sy'n ymwneud â'r frwydr hon.

line

134

Cyfanswm y gemau mae Cymru wedi chwarae yn erbyn Iwerddon erioed. 1882 oedd y tro cyntaf gyda'r cochion yn ennill 2-0 yn Heol Landsdowne. Cymru sydd â'r fantais hanesyddol gyda 70 o fuddugoliaethau o'i gymharu â 57 i'r Gwyddelod. Mae saith gêm gyfartal wedi bod rhwng y ddwy wlad.

line

2012

Y tro diwethaf i Gymru sicrhau buddugoliaeth yn Nulyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. George North yw'r unig aelod o'r garfan bresennol oedd ar y cae y prynhawn hwnnw, ac mae ei gasgliad e o 119 cap yn cyfrannu at bron i chwarter y cyfanswm o gapiau sy' yn y pymtheg cychwynnol.

jonathanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davies yn croesi am gais yn y fuddugoliaeth i Gymru yn Nulyn yn 2012

line

17

Cyfanswm y gemau cartref y mae Iwerddon wedi eu hennill yn olynol. Does dim amheuaeth bod Stadiwm Aviva yn gadarnle i dîm Andy Farrell sydd bellach wedi ennill 38 o'u deugain gêm ddiwethaf yn Nulyn.

line

12

Nifer y ceisiau y mae'r Gwyddelod wedi ildio yn y 12 gêm ddiwethaf yn y Chwe Gwlad. Mae hyn yn cymharu â Chymru sydd wedi ildio 32, tra bod 57 o geisiau wedi eu sgorio yn erbyn yr Eidalwyr yn yr un cyfnod.

defenseFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar 11 Chwefror fe enillodd Iwerddon yn erbyn Yr Eidal, heb ildio pwynt yn y broses, 36-0

line

5

Cyfanswm y gemau proffesiynol y mae Mackenzie Martin wedi eu dechrau yn ei yrfa. Bydd yr wythwr yn gobeithio ennill ei gap cyntaf i Gymru oddi ar y fainc prynhawn Sadwrn. Mae 'di bod yn dri mis rhyfeddol i'r gwr 20 oed a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd yn erbyn y Stormers fis Tachwedd.

line

78%

Llwyddiant leiniau Cymru yn y Bencampwriaeth eleni. Dyfalwch beth yw record y Gwyddelod? Ie 100%, perffaith.

gwyddelodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arf effeithiol a dibynadwy yn arddull y Gwyddelod, y llinell

line

315

Munud ers i Gymru sgorio cic gosb ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae'n amlwg bod Warren Gatland yn ceisio esblygu arddull y tîm cenedlaethol.

line

18

Cyfanswm y munudau a wastraffwyd yn paratoi ar gyfer y sgrymiau yn y gêm rhwng Lloegr a Chymru. Bydd y cefnogwyr yn gobeithio am lai o oedi a mwy o chwarae ar y penwythnos.

scrumFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ail-osod ac ail-osod; stori y sgrymio yn Twickenham ar 10 Chwefror

line

22

Y fantais mae'r bwcis wedi eu rhoi i'r Gwyddelod. Mae'r gwybodusion yn unfrydol mae Iwerddon yw'r ffefrynnau clir i ennill brynhawn Sadwrn.

line

Hefyd o ddiddordeb: