Dyn o Gaerdydd wedi dioddef anafiadau 'catastroffig' - cwest

  • Cyhoeddwyd
Ibrahim YassinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ibrahim Yassin ei ddisgrifio fel dyn "hael a thirion o fewn ei gymuned"

Mae cwest i farwolaeth dyn yn dilyn ymosodiad yn ei gartref yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf wedi cael ei agor a'i ohirio.

Clywodd Llys Crwner Canol De Cymru bod Ibrahim Yassin, 64, wedi ddioddef anafiadau "catastroffig" i'w wddf yn Nhre-biwt ar 18 Chwefror.

Cafodd y cwest ei ohirio wedi i'r is-grwner ddweud bod rheswm i gredu bod Mr Yassin wedi dioddef marwolaeth dreisgar a bod angen i'r heddlu gwblhau eu hymchwiliadau.

Fe wnaeth Mujeeb Rahman Hassani, 38, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Mr Yassin.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf ym mis Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mujeeb Rahman Hassani wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i'r eiddo ar Ffordd Belmont toc wedi 09:00 fore Sul, yn dilyn adroddiad o ymosodiad difrifol.

Clywodd y gwrandawiad ddydd Gwener fod unigolyn wedi dod i gartref Mr Yassin y bore hwnnw er mwyn gofyn am yr allweddi i Fosg.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Mawrth.

Daeth y patholegydd i'r casgliad mai achos y farwolaeth oedd sawl anaf oedd wedi eu hachosi gan wrthrych miniog.

Wrth roi teyrnged i Mr Yassin, dywedodd ei deulu ei fod yn "dad ffyddlon" i 11 o blant a'i fod wedi bod yn "ddewr ers colli ei wraig yn 2008".

Pynciau cysylltiedig