Contractwr Tata wedi marw dan feic cwad - cwest

  • Cyhoeddwyd
Adam LlewellynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Adam Llewellyn yn defnyddio beic cwad i chwistrellu chwynladdwr pan fu farw

Mae cwest i farwolaeth contractwr gwaith Tata wedi clywed iddo gael ei ganfod yn farw dan feic cwad tra'n gweithio ger cronfa ddŵr.

Bu farw Adam Llewellyn, 41 o Ben-y-bont, ger cronfa Eglwys Nunydd, Port Talbot, ar 5 Medi 2019.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Crwner Abertawe y bu'n defnyddio beic cwad i chwistrellu chwynladdwr ger y gronfa, ond mai tractor oedd i fod i gael ei ddefnyddio.

Roedd yn gweithio i gwmni Darlow Lloyd, oedd yn cwblhau gwaith i Tata y diwrnod hwnnw.

Yn dilyn asesiad post mortem, fe ddywedodd patholegydd fod anafiadau Mr Llewellyn yn awgrymu y bu pwysau trwm ar y frest.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Heddlu De Cymru wedi bod yn ymchwilio.

'Ddim yn ymwybodol' am y beic cwad

Ar ddiwrnod cyntaf y cwest, fe glywodd y rheithgor fod Mr Llewellyn yn ffermwr profiadol a'i fod wedi gweithio mewn partneriaeth â'i dad ers blynyddoedd fel peiriannydd amaethyddol.

Bu hefyd yn gweithio i gontractwyr yn gwneud gwaith fel torri cloddiau a chwistrellu chwyn, gan gynnwys i gwmni Darlow Lloyd and Sons (DLS).

Clywodd y llys gan un o reolwyr DLS a ddywedodd mai tractor oedd y cerbyd a gafodd ei gynnwys yn yr asesiad risg i waith Tata cyn i'r gwaith ddigwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Adam Llewellyn ger cronfa ddŵr Eglwys Nunydd ym Mhort Talbot

Dywedodd Jonathan Thomas o DLS nad oedd yn gwybod mai beic cwad a gafodd ei ddefnyddio gan Mr Llewellyn ar y diwrnod.

Dywedodd Mr Thomas ei fod wedi cael galwad gan Mr Llewellyn y bore hwnnw yn dweud fod twll yn nheiar y tractor ac y byddai'n hwyr i'w waith.

Roedd Mr Thomas wedi cymryd, dywedodd, y byddai Mr Llewellyn yn datrys y broblem cyn mynd i'r gwaith ac yn defnyddio'r tractor.

Ychwanegodd fod aelod o staff yn goruchwylio gwaith Mr Llewellyn y diwrnod hwnnw, sef Stewart Jones.

Fe glywodd y rheithgor gan Mr Jones, a ddywedodd nad oedd yn gwybod y byddai Mr Llewellyn yn defnyddio beic cwad tan iddo ei weld ger y gronfa.

Dywedodd wrth y llys ei fod yn gwybod na ddylai beic cwad gael ei ddefnyddio i wneud y gwaith, ond ei fod yn ymddiried ym mhrofiad a phenderfyniad Mr Llewellyn.

Ni welodd Mr Jones ei gydweithiwr am weddill y dydd ond fe geisiodd ei ffonio tua diwedd y prynhawn.

Fe fethodd Mr Jones â chael gafael yn Mr Llewellyn felly yn dilyn sawl galwad ffôn, rai oriau'n ddiweddarach, fe aeth Mr Jones yn ôl i'r safle.

'Bob amser yn barod i helpu unrhyw un'

Daeth o hyd i Mr Llewellyn yn farw gyda beic cwad arno, ben i waered, a dywedodd ei fod wedi ffonio 999 cyn dechrau CPR.

Daeth ambiwlans ac fe gadarnhaodd parafeddygon ei fod wedi marw.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen ar ran tad Mr Llewellyn, fe ddisgrifiodd amgylchiadau'r farwolaeth fel rhai "trasig".

"Dw i ddim yn gwybod pam y digwyddodd y ddamwain. Mae damweiniau yn digwydd," dywedodd.

"Mae wedi achosi gymaint o alar a phoen."

Dywedodd gwraig Mr Llewellyn ei fod yn ffermwr cydwybodol ac yn ddyn teulu.

"Fe wnaeth Adam gyffwrdd ym mywydau cynifer o bobl," dywedodd Mrs Llewellyn.

"Roedd bob amser yn barod i helpu unrhyw un, mewn unrhyw ffordd y gallai.

"Roedd yn ddyn balch, yn falch o'i deulu, ei waith a phopeth a gyflawnodd."

Mae'r cwest i'w farwolaeth yn parhau.

Pynciau cysylltiedig