Pennod newydd hapus dynes o Wcráin a ddaeth i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe wylion ni ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar deledu mewn gwesty yn Barcelona.
Tasach chi wedi dweud wrtha'i yr adeg honno, y byswn i ddwy flynedd yn ddiweddarach yn ysgrifennu erthygl i Cymru Fyw ynglŷn â bod yn dyst ym mhriodas dynes a ddaeth i fyw gyda ni fel ffoadur, faswn i ddim wedi'ch coelio chi.
Ond bellach mae ganddon ni 'ail deulu' sy'n byw ym Mryste - mam a mab o Wcráin, a gŵr o Latfia o'r enw Stas.
Wrth i ni wylio adroddiadau o filiynau o Wcreiniaid - merched a phlant, gan fwyaf - yn ceisio ffoi'r ymladd, fe benderfynon ni gofrestru gyda chynllun Homes for Ukraine Llywodraeth y DU.
Mi ddaethon ni i gysylltiad â Yuliia a'i mab, Danyiil, trwy ddyn Pwylaidd o Gaerdydd oedd mewn cysylltiad â grŵp yn Abertawe oedd yn helpu ffoaduriaid.
Dwi'n siŵr y ga' i faddeuant am amau a oedden ni'n gwneud peth doeth ai peidio.
Mae agor eich cartref i bobl nad ydych chi'n eu nabod yn gam mawr, ond roedden ni fel teulu yn gytûn.
Mi gafon ni alwad Facetime tra roedd Yuliia a Dan yn aros dros dro mewn fflat yng Ngwlad Pwyl, ac o'r foment honno mi roeddwn i'n gwybod ein bod ni'n gwneud y peth iawn.
Fe gyrhaeddodd Yuliia a Dan ym mis Mai 2022. Mi wnes i grio yn y car yr holl ffordd i Faes Awyr Bryste.
Roedd eu cyfarch nhw yn foment wna' i fyth anghofio. Ar wahân i ymweliad â Gwlad Pwyl doedden nhw erioed wedi gadael Wcráin.
Dwi'n teimlo eu bod nhw wedi setlo yn wyrthiol o dda o dan yr amgylchiadau.
Fe wnaethon ni ffrindiau gyda theuluoedd eraill o Wcráin, a'u noddwyr yng Nghaerdydd.
Dechreuodd Yuliia weithio yn syth mewn gwesty ac fel technegydd ewinedd. Fe aeth Dan i'r ysgol.
Fe lenwon ni ddwsinau o ffurflenni ac fe ymwelodd swyddogion o'r cyngor i sicrhau bod pawb yn hapus a phopeth yn ei le.
Fe aethon ni ati i ddysgu am ddiwylliant Wcráin ac fe wnaeth Yuliia goginio sawl gwledd flasus i ni. Borscht a salad cranc ydy'r ffefrynnau!
Er bod Saesneg Yuliia eisoes yn safonol iawn fe ddaeth apiau cyfieithu i mewn yn handi wrth i ni geisio cyfathrebu.
Ond mi roedd 'na heriau. Yn naturiol, roedden nhw'n gwylio'r newyddion yn barhaus ac yn siarad â pherthnasau adref mor aml â phosib.
Roedden nhw'n hiraethu, a dim syniad gan unrhyw un pryd byddai'n saff i fynd adref.
Mae'r berthynas rhwng y teulu sy'n noddi a'u gwesteion yn unigryw.
Roedden ni'n ymwybodol eu bod nhw angen cefnogaeth, ond yn awyddus i beidio â gwneud penderfyniadau drostyn nhw.
Fe ddaethon nhw aton ni fel dieithriaid ond bellach mae ganddon ni gysylltiad arbennig fydd, 'dan ni'n mawr obeithio, yn para am byth.
Ac erbyn hyn, mae un arall wedi ymuno â'r teulu.
Haf diwethaf fe wnaeth Yuliia briodi â gŵr hyfryd o'r enw Stas o Fryste. Roedd hi'n ddathliad bendigedig gyda llond llaw o ffrindiau agos.
Fe gafodd mam Yuliia, Valentina, a'i chwaer-yng-nghyfraith, Dacha, ddod draw i ddathlu ac mi roedden nhw wrth eu boddau yn cael bod yno.
Roedd digon o chwerthin a gobaith am y dyfodol.
Roedd hi hefyd briodas amlieithog - Wcreineg, Latfieg, Rwsieg, Pwyleg, Saesneg a Chymraeg!
Bellach, maen nhw'n byw ym Mryste ac yn hapus eu byd. 'Dan ni fel teulu mor falch drostyn nhw.
'Dan ni'n cwrdd yn achlysurol, ac yn bwriadu cyfarfod ddechrau mis Mai i nodi dwy flynedd ers iddyn nhw ddod aton ni i Gymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Chwefror