Y ffermwr a'r dyn busnes o Fôn, Iolo Trefri, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y diweddar Iolo Trefri yn sgwrsio gyda Mari Lovgreen ar raglen Cefn Gwlad

Mae'r dyn busnes a'r ffermwr adnabyddus o Ynys Môn, Iolo Owen Trefri, wedi marw yn 92 oed.

Bydd yn cael ei gofio'n bennaf am greu brîd newydd o ddafad, mentro i fyd adloniant, agor bwyty enwog a sŵ.

Yn dad i bump o blant - gan gynnwys y digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen - fe dreuliodd ei fywyd yn arloesi ac arbrofi.

Ym mis Tachwedd 2021 cafodd y fraint o agor Ffair Aeaf Môn fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad enfawr i'r sector amaethyddol ar yr ynys.

Derbyniodd MBE hefyd am ei gyfraniad i'r byd amaethyddol.

Yn 2022, cafodd rhaglen arbennig o Cefn Gwlad ei darlledu ar S4C, yn dathlu bywyd "un o gymeriadau chwedlonol Ynys Môn".

Brîd newydd o ddafad

Bydd Iolo Trefri yn cael ei gofio am greu brîd newydd o ddafad, nad oedd angen ei chneifio.

Ar ôl treulio 20 mlynedd, fe ddatblygodd yr easycare breed - dafad sy'n tyfu modfedd yn unig o wlân a ddim angen ei chneifio.

Mae'r brîd bellach yn adnabyddus dros y byd - gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Seland Newydd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Iolo Trefri yn cael ei gofio'n bennaf am greu brîd newydd o ddafad, mentro i fyd adloniant, agor bwyty enwog a sŵ

Cafodd Iolo Trefri ei fagu ar fferm Bodgedwydd yn ne-orllewin Ynys Môn, cyn symud yn bump oed i Trefri - un o ffermydd mwyaf stad Bodorgan.

Magodd ef a'i wraig, Gwyneth, bump o blant yno.

Cartref i'r sêr

Roedd yn mwynhau mentro, a ddechrau'r 70au, fe benderfynodd Iolo Trefri droi hen siediau ar fferm Glantraeth yn fwyty a llwyfan ar gyfer nosweithiau llawen.

Roedd Glantraeth yn cael ei weld fel cartref i'r sêr.

Ffynhonnell y llun, Slam Media/ITV Cymru/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Iolo Trefri ei fywyd yn arloesi ac arbrofi

Un o'i fentrau mwyaf anarferol oedd agor sŵ ar dir fferm yng nghanol cefn gwlad Ynys Môn.

Dywedodd wrth raglen Cefn Gwlad: Iolo Trefri yn 2022: "O'dd 'na ryw foi o'dd yn rentio tŷ gen i yn rhedeg pet shop ym Mangor... o'dd gyno fo mwncwns ac anifeiliaid gwyllt eraill a cai o ddim cadw nhw ym Mangor.

"Mi ofynnodd os o'dd gen i rywle i roi nhw. Nes i feddwl 'duwcs mi dynnith rhein bobl i'r bwyty!

"Ddo'th 'na lew yna, a hwnnw'n fawr fwy na ci, cradur bach... yn denau, a 'di colli'i flew. A sna'm byd hyllach na llew 'di colli'i flew!"

'Diolch o galon Taid'

Yn 2022, fe benderfynodd Iolo Trefri brynu ac adfer Tafarn y Joiners ym Malltraeth.

Ei ŵyr, Huw Owen, sy'n rhedeg y dafarn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Huw Owen a'i daid, Iolo Trefri

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd: "Roedd Taid yn gymeriad mawr... dyn busnes a dyn teulu.

"Doedd 'na ddim byd gwell iddo fo na gweld y teulu yn hapus ac yn gwneud yn dda. Dwi'n hynod ddiolchgar iddo am roi cyfle i mi redeg y dafarn fy hun.

"Un o fy atgofion cyntaf i o Taid oedd mynd rownd defaid efo fo ar y quad o gwmpas Glantraeth ac yn fwy diweddar, yn cael whisky efo fo yn gwylio pêl-droed ar y teledu.

"Mi oedd o wedi synnu bod Thierry Henry dal yn chwarae, heb sylwi na highlights o 2005 oedd o! Diolch o galon Taid."

'Fysan ni gyd yn gallu bod ychydig bach mwy fel Iolo'

Un dreuliodd ddyddiau yng nghwmni Iolo Trefri oedd y cyflwynydd Mari Lovgreen, wrth iddyn nhw ffilmio rhaglen arbennig o Cefn Gwlad ar S4C.

Dywedodd: "Mi'r oedd hi'n fraint treulio diwrnodau yng nghwmni Iolo Trefri... am gymeriad a mi nes i chwerthin lot fawr!

"O'dd o 'di byw drwy gyfnodau o newid mawr, ac efo hanesion lliwgar a diddorol am bob cyfnod.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cyflwynydd rhaglen Cefn Gwlad, Mari Lovgreen "ei bod yn fraint treulio amser yng nghwmni Iolo Trefri"

"One off o berson - fydd 'na neb tebyg iddo fo eto ma' hynny'n saff... roedd ganddo fo'r egni a'r drive mwya' rhyfeddol, a dim golwg slofi ar ei feddwl chwim.

"Roedd ganddo ddewrder a hyder i fentro, a bod yn 100% fo'i hun bob amser.

"Doedd o ddim ofn gneud smonach o bethau - yn gweld bob camgymeriad fel gwers bwysig... mond i chi beidio gwneud yr un camgymeriad eto!

"Mi oedd o'n amlwg yn meddwl y byd o'i deulu, ac wrth ei fodd yn cymryd diddordeb yn eu gwaith a'i diddordebau, a'u gweld yn llwyddo.

"Fysan ni gyd yn gallu trio bod yn 'chydig bach mwy fel Iolo. 'Na i drysori fy amser efo fo am byth."

'Brenin Berffro'

Roedd Cynghorydd Bro Aberffraw a phrif leisydd band Y Moniars, Arfon Wyn, yn adnabod Iolo Trefri a'i deulu.

Dywedodd: "Roedd ganddo syniadau newydd a difyr ar gyfer datblygiadau hyd y diwedd.

"Yn ddiweddar fe brynodd nifer o dafarndai lleol, gan eu gwella ymhob ffordd, a chan fynnu cael adloniant Cymraeg ymhob un.

"Roedd lles ei fro a'r Gymraeg yn bwysig iddo yng nghyd-destun ei ddatblygiadau i gyd ac fe gyflogai Gymry lleol bob amser.

Ffynhonnell y llun, Tafarn y Joiners
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Moniars yn perfformio yn aml yn Nhafarn y Joiners ym Malltraeth

"Yn bersonol, o'n i'n meddwl amdano fel Brenin 'Berffro ac yn Dywysog Bodorgan, a bydd colled fawr ar ei ôl.

"Fel dywed y dywediad: 'Dydyn nhw ddim yn gwneud rhai fel hyn mwyach'."

'Profwch bopeth'

Pan gafodd ei holi ar y rhaglen beth fyddai ei gyngor i bobl eraill, dywedodd Iolo Trefri: "Profwch bopeth a cadwch yr hyn sydd yn dda.

"Does dim byd yn rong am wneud camgymeriad, jest bod chi'n trio peidio gwneud yr un un ddwywaith.

"Mae'r dyn sydd heb wneud camgymeriad heb wneud dim byd."

Pynciau cysylltiedig