Lluniau: Protest ffermwyr o flaen y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mewn ceir, bysiau a thractorau fe heidiodd amaethwyr ar draws Cymru i Gaerdydd ddydd Mercher er mwyn protestio o flaen y Senedd.
Fel mae'r lluniau yma yn dangos, roedd miloedd o ffermwyr wedi dod ynghyd i wrthwynebu newidiadau i gymorthdaliadau amaeth.
Dywed llywodraeth Lafur Cymru eu bod yn gwrando ar bryderon y sector.


Roedd hi'n fore cynnar i Gaerdydd i rai, fel y criw yma o Gorwen...

...ond llai o daith i'r ffermwyr yma o ardal Crymych

Tractorau oedd trafnidiaeth nifer o ffermwyr wrth iddyn nhw gael eu dargyfeirio gan yr heddlu i'w cadw mewn man priodol

Roedd protestwyr o bob oed o flaen y Senedd

Ffermwyr yn gwneud eu pwynt ar blacardiau wrth gerdded heibio geiriau'r bardd Gwyneth Lewis ar Ganolfan y Mileniwm


Wyn Evans, ffermwr defaid a gwartheg, yn annerch y dorf o flaen y Senedd


Roedd y cyn-ddyfarnwr rygbi, Nigel Owens, sydd ei hun yn ffermio, yn siarad â'r dorf ym Mae Caerdydd

"Roedd araith Nigel Owens yn tynnu blew o 'ngwar i, oedd o'n emosiynol iawn," meddai Iwan Davies

