'Prinder diffoddwyr tân yn peryglu bywydau'

  • Cyhoeddwyd
gwasanaeth tân
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 328 o swyddi gwag ar gyfer ddiffoddwyr tân ar alwad ar draws y tri gwasanaeth tân yng Nghymru llynedd

Mae bywydau'n cael eu peryglu oherwydd diffyg diffoddwyr tân, yn ôl pennaeth undeb.

Dywedodd Duncan Stewart-Ball fod y sefyllfa mor ddifrifol, bod rhai gorsafoedd gwledig yn aml ddim yn gallu ymateb bellach, gan olygu oedi hir wrth i griwiau deithio o ardaloedd eraill.

Yng Nghymru, mae yna 146 o orsafoedd tân, ond mae 105 o'r rhain - dros 70% - yn cael eu staffio'n gyfan gwbl gan ddiffoddwyr tân ar alwad.

Roedd 328 o swyddi gwag ar gyfer y rolau hyn ar draws y tri gwasanaeth tân yng Nghymru llynedd, ac mae undebau'n amcangyfrif bod cannoedd wedi gadael am byth yn y degawd diwethaf.

'Lot o oriau i'w rhoi'

Pan ymunodd Nat Eddleston â'r gwasanaeth tân, roedd hi'n teimlo ei bod yn gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned ac yn achub bywydau yn y broses.

Fel miloedd o bobl dros y DU, roedd y ddynes 38 oed o Gonwy yn wirfoddolwr cyflogedig a oedd yn gorfod canfod cydbwysedd rhwng y rôl a'i swydd llawn amser a bywyd gartref.

Ffynhonnell y llun, Nat Eddlestone
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nat Eddlestone yn credu bod rôl yn y gwasanaeth tân yn berffaith iddi

Mae llawer o orsafoedd tân yn cael eu staffio'n gyfan gwbl gan ddiffoddwyr tân ar alwad fel Nat, sy'n cael eu talu rhwng £2,700 a £3,600 y flwyddyn ynghyd â chyfradd fesul awr ar gyfer unrhyw alwadau.

Maen nhw'n gallu bod yn unrhyw beth - adeiladwyr, gweithwyr gofal, rhieni sy'n aros gartref - ond rhaid iddynt fyw a gweithio o fewn ychydig filltiroedd i'w gorsaf, a bod yn barod i ollwng popeth os oes galwad frys.

Mae'n ffordd o fyw sy'n dod yn fwy anodd cydbwyso â gofynion bywyd modern, yn ôl nifer o fewn y gwasanaeth.

"Ar y dechrau 'da chi'n cofrestru oherwydd eich bod chi'n awyddus," meddai Nat.

"Ond yna 'da chi'n dechrau sylweddoli bod hyn yn 120 awr yr wythnos. Mae hynny'n lot o oriau i'w rhoi.

"Roedd o'n ymddangos yn doable i ddechrau.

"Ro'n i yn y coleg yn astudio ac roedd o'n iawn yn ystod y dydd, ond wedyn fyswn i'n gweld mod i ar alwad bob nos a phob penwythnos, a daeth yn ormod a dweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nat wedi symud i swydd newydd ar ôl pedair blynedd fel diffoddwr tân rhan amser

Ar ôl derbyn swydd newydd ar fferm wynt oddi ar yr arfordir, sylweddolodd Nat ei bod yn anoddach fyth parhau gyda'r gwasanaeth tân.

Roedd ei rota yn golygu ei bod yn gweithio ar y môr am wythnos ar y tro, ac yna wythnos o orffwys.

Ond er mwyn cyrraedd yr isafswm oriau gofynnol ar gyfer ei gwasanaeth lleol, byddai angen i Nat gytuno i fod ar alwad am bron yr holl amser y bu'n ôl ar y tir mawr.

"Fedri di ddim hyd yn oed cerdded yn bell iawn pan ti ar alwad, achos os ti'n mynd am dro ma'n rhaid i chdi fod yn ddigon agos i'r orsaf," meddai.

"Ti'n rhoi yn ôl i'r gymuned a ti'n teimlo fel bo' chdi'n gadael nhw lawr wrth adael.

"Nid yn unig y gymuned ond y gwasanaeth tân, oherwydd maen nhw wedi buddsoddi'r holl arian yna ar gyfer yr hyfforddiant, ac yna i gerdded i ffwrdd - mae'n deimlad reit drist a dweud y gwir."

'Bywydau mewn perygl'

Mae gwasanaethau tân yng Nghymru yn mynychu miloedd yn llai o alwadau bob blwyddyn nag yr oeddent ddegawd yn ôl, yn rhannol oherwydd gwaith i addysgu pobl am ddiogelwch tân.

Ond er hyn, roedd data a welwyd gan raglen BBC Wales Live yn dangos bod amseroedd ymateb wedi gwaethygu bron bob blwyddyn rhwng 2013 a 2022.

Yn y gogledd, fe gymrodd bedair munud a 28 eiliad yn hirach i gyrraedd tanau - gyda'r aros cyfartalog yn 14 munud 43 eiliad.

Ar gyfer gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru, fe gymrodd ddau funud 47 eiliad yn hirach, gydag amseroedd aros ar gyfartaledd yn 14 munud 16 eiliad.

Yn ne Cymru, lle mae'r rhan fwyaf o ddiffoddwyr tân amser llawn yn cael eu cyflogi, fe gymrodd tua dau funud 35 eiliad yn hirach - 11 munud 53 eiliad ar gyfartaledd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae amseroedd ymateb y gwasanaeth tân wedi gwaethygu bron bob blwyddyn rhwng 2013 a 2022

Mae Undeb y Brigadau Tân yn amcangyfrif bod cannoedd wedi gadael y gwasanaeth yn y degawd diwethaf.

Maen nhw'n credu bod y gostyngiad mor sylweddol fel y "gallai bywydau fod wedi cael eu colli" o ganlyniad.

Mae prinder diffoddwyr tân ar alwad yn golygu nad yw rhai gorsafoedd yn gallu ymateb o gwbl pan ddaw rhai galwadau brys.

"Mae'n ddigwyddiad rheolaidd," esboniodd Duncan Stewart-Ball, ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae bywydau mewn perygl, yn ôl Duncan Stewart-Ball

Dywedodd fod rhai ardaloedd gwledig yn aml yn gweld sefyllfaoedd lle nad oedd eu gorsaf dân agosaf yn gallu ymateb oherwydd problemau staffio, gan olygu oedi o hyd at "hanner awr" wrth i griwiau deithio yno o du hwnt i'r ardal.

"Yn y dyfodol fe allen ni weld sefyllfa lle mae rhywun yn ffonio 999 oherwydd bod eu tŷ ar dân, a ni'n troi rownd a dweud 'sori, mae yna oedi'," meddai.

"Mae yna risgiau i'r cyhoedd. Mae bywydau mewn perygl."

Diffoddwyr ar alwad yn 'hanfodol'

Dywedodd pob un o wasanaethau tân Cymru fod diffoddwyr tân ar alwad yn "hanfodol" i'w gwaith, ond cyfaddefodd fod eu recriwtio a'u cadw yn heriau cynyddol ledled y wlad.

Yn ôl Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru maen nhw'n gweithio i "wella'n sylweddol" ei system ar alwad, gyda recriwtio wedi'i dargedu a gwell "cyfleoedd hyfforddi a datblygu".

Dywedodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru eu bod hefyd wedi adolygu profiadau diffoddwyr tân ar alwad yn ddiweddar a bod "nifer o newidiadau cadarnhaol" wedi'u gwneud.

Ychwanegodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu bod yn gweithio ar fentrau ac yn croesawu ymgeiswyr newydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diffoddwyr tân ar alwad wedi "achub bywydau niferus mewn ystod eang o ddigwyddiadau dros nifer o flynyddoedd".

"Mae ymgyrchoedd recriwtio yn cael eu cynnal yn aml ar draws Cymru i hybu niferoedd a sicrhau bod gan orsafoedd tân ddigon o staff," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig