'Trychfilod fel pobl': hobi newydd yn llesol i ŵr o Fôn

  • Cyhoeddwyd
Picellwr cyffredinFfynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Y picellwr cyffredin

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cadw draw ohonyn nhw, ond mae un gŵr o Fôn yn dweud bod ei fywyd yn gyfoethocach ers magu diddordeb mewn trychfilod.

Fe brynodd Harri Williams gamera newydd flwyddyn ddiwethaf i dynnu lluniau natur, gan ddysgu sut i dynnu lluniau agos iawn o bob math o bryfaid, gwyfynod a phryfaid cop.

Ac fel mae'r athro cemeg yn Ysgol Eirias yn egluro, mae o wedi elwa o'r profiad drwy wella fel ffotograffydd - fel sy'n amlwg o'r oriel yma o'i waith - dysgu am fyd natur a chael saib o brysurdeb bywyd.

Ffynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Pry cop croes

Dyma'r llun trychfil cyntaf wnaeth Harri ei dynnu gyda'i gamera newydd, ar ôl i'w wraig ei berswadio i fuddsoddi gan ei fod yn hoffi tynnu lluniau natur ar ei ffôn wrth fynd am dro.

Yn ffodus, roedd ei 'fodel' - pry cop yn y gegin - yn ddigon bodlon i adael i Harri ddod i arfer gyda'i offer newydd.

"Mae trychfilod bron fel pobl - ti'n cael ambell un sy'n fwy chilled nag eraill," meddai.

"Roedd y creadur yma yn hollol llonydd, felly ro'n i'n gallu defnyddio treipod a chymryd amser i weithio'r camera. Mae'n rhaid mod i yno am awr yn tynnu hwn a pan nes i edrych ar y llun, doeddwn i methu coelio'r manylder.

"Roedd o'n agor byd hollol newydd i fi - doeddwn i ddim yn disgwyl hynny.

"Dwi'n meddwl bod gen i ddiddordeb yn y byd bach, sy'n dod o fy nghefndir i fel cemegydd sy'n trio deall y byd bach anweledig."

Ffynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Sioncyn y gwair

Er ei fod wedi tynnu lluniau gwell o sioncyn y gwair, meddai, mae'r llun yma'n adlewyrchu sut mae'r ffotograffiaeth wedi newid agwedd Harri tuag at natur.

Roedd o'n arfer torri'r lawnt a'r llwyni yn ei ardd yn gyson - ond wnaeth o ddim llynedd er mwyn annog tyfiant a denu trychfilod... ac mae wedi gweithio.

"Haf diwetha', am y tro cynta', nes i weld sioncyn yn yr ardd a ro'n i wrth fy modd - a dwi wedi dewis y llun yma achos mae o wedi ei dynnu yn fy ngardd. Mae'n bleser pan ti'n tynnu llun rhywbeth sy'n byw efo chdi ac mae o yma achos mod i wedi stopio gwneud rhywbeth.

"'Mae 'na uffar o olwg yma, ond mae'n denu llwyth o drychfilod."

Ffynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tarianbryf gwyrdd... a'i ffrind

Er bod Harri'n edrych yn llawer mwy manwl ar fyd natur erbyn heddiw, mae tynnu'r llun a'i chwyddo yn gallu datgelu rhyfeddodau eraill.

Y tarianbryf gwyrdd oedd canolbwynt sylw Harri wrth dynnu'r llun yma - ond ar ôl edrych ar y llun ar y sgrin cyfrifiadur fe welodd rywbeth arall.

"Mae'n sefyll ar wyfyn ŷd. Nes i ddim gweld o ar y pryd - ti mor focused ar be' ti'n trio tynnu. Dwi heb weld un o'r rhain o'r blaen, maen nhw mor fychan.

"Weithiau mae 'na bethau diddorol yn y llun a ti heb weld nhw efo dy lygaid."

Ffynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Pryf y tail

Erbyn tynnu'r llun yma, roedd Harri wedi prynu camera arall gyda lens pwrpasol i dynnu lluniau agos iawn gyda mwy o fanylder.

Pryfyn tail ydi hwn, wedi ei dynnu yng Nghors Ddyga, Ynys Môn, ac wedi ei ddewis gan Harri fel enghraifft o brydferthwch annisgwyl natur, os ydi rhywun yn barod i edrych.

"Mae hwn mor drawiadol, pan ti'n zoomio i mewn ti'n gweld y dotiau mân, mân. Be' faswn i'n galw hwn yn Sir Fôn ydi pry cachu, mae o wedi dod o wy oedd mewn carthion, a ti'n gweld sut mae rhywbeth mor anhygoel o brydferth, efo'r llygaid a'r oren ar ei flaen, wedi dod o garthion.

"Mae natur yn anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Pryf yn chwythu swigen

Dywed Harri bod ei wybodaeth am fyd natur o'i gwmpas wedi cynyddu diolch i'w hobi newydd.

Roedd y pry yma yn cynhesu ar ddarn o bren yn yr y haul, ond roedd y lens macro wedi gallu tynnu llun swigan o ddŵr yn dod allan o'i geg.

Ffynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Harri Williams

"Mae gronyn y dŵr mor fychan nes i ddim gweld o tan o'n i adra," meddai Harri.

"Ar ôl gwneud 'chydig o ymchwilio nes i ddeall mai dyma'r arddull maen nhw'n defnyddio i stopio gorboethi - maen nhw'n chwythu'r dŵr allan i greu pelen, ac wedyn yn sugno i fewn."

Ac o edrych yn ofalus iawn, mae'n ymddangos bod adlewyrchiad bychan iawn o'r ffotograffydd yn y swigan ddŵr hefyd.

Ffynhonnell y llun, Harri Williams

Mae Harri yn hoff o'r llun yma gan fod y pryfyn yn edrych yn "arallfydol" - ond doedd o erioed wedi gweld un o'r blaen tan iddo ddechrau arafu i dynnu lluniau, sydd wedi bod yn fuddiol:

"Mae 'na fyd o'n cwmpas os ydan ni'n cymryd yr amser i edrych arno. Mae ffotograffiaeth wedi fy ngorfodi i arafu ac mae fy ngwraig yn dweud mod i wedi arafu fel person.

"Dwi'n cropian cerdded rŵan, lle o'r blaen fyddwn i'n mynd am dro ac yn mynd mor gyflym ac o'n i'n gallu er mwyn dod nôl. Ond mae hwn wedi arafu fi fel person, sy'n llesol."

Ffynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gwyfyn Rhagfyr

"Mae hwn fel Wookiee yn Star Wars," meddai Harri. "Roedd o'n eistedd ar y stepan drws 'Dolig 'ma, ac mae'r creadur yma yn un o'r gwyfynod sy'n gallu byw yn y gaeaf gan fod ganddo got drwchus.

"Mae o'n greadur hoffus yn ei hun, ac mae o wedi fy annog i brynu trap gwyfynod, felly gobeithio fyddai'n gallu gweld mwy o greaduriaid fel hwn."

Ffynhonnell y llun, Harri Williams

Mae'r llun olaf yn dangos datblygiad Harri fel ffotograffydd, o'i gymharu efo'r llun cyntaf o'r pry cop.

Yn hytrach na thynnu llun gyda'r ffocws ar un rhan bychan o'r pry cop - fel arfer y llygaid - mae'r dechneg yma yn cymryd nifer o luniau gyda'r ffocws ar rannau gwahanol o'r anifail ac yn rhoi'r cyfan at ei gilydd i greu un llun gyda'r holl anifail yn glir.

"Ti angen y trychfil a'r camera i fod yn hollol llonydd i wneud hyn, be' maen nhw'n alw yn focus stacking," eglurodd Harri. "Roedd y pry cop yn y tŷ felly ro'n i'n gallu rhoi'r camera ar treipod, efo'r creadur yma ar y ddesg ac roedd o'n hollol hapus.

"Mae'r canlyniad yn drawiadol iawn. Mae'n edrych yn erchyll ond mae'n llai na 1cm o goes i goes."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig