Oriel natur Galwad Cynnar 2023

  • Cyhoeddwyd

Fel sy'n amlwg o'r lluniau yma, mae gwrandawyr Galwad Cynnar wedi dogfennu byd natur Cymru drwy gydol 2023.

Gyda chymaint o'r gwrandawyr ffyddlon yn hoffi mynd am dro ac efo diddordeb mewn byd natur, mae lluniau yn cael eu hanfon drwy'r flwyddyn i grŵp Facebook y rhaglen radio - unai i ofyn barn yr arbenigwyr neu i rannu delweddau hardd o Gymru.

  • Gwrandewch ar Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru am 0700 bob bore Sadwrn, ac yna ar BBC Sounds.

Enfys o gopa mynyddFfynhonnell y llun, Erwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dechrau da i'r flwyddyn - cerdded y Glyderau yn yr eira, uwchben y cymylau, gydag enfys yn gwmni. Erwyn Jones dynnodd y llun yma wrth gerdded y Glyderau fis Ionawr 2023

Pryfaid cop ar blanhigynFfynhonnell y llun, Sharon Jones-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Pryfaid cop prysur yng Nghors Ddyga, Ynys Môn. Y llun wedi ei dynnu fis Ionawr gan Sharon Owen

Nant FfranconFfynhonnell y llun, Dei Fon
Disgrifiad o’r llun,

Llun Dei Fôn o wal lechi yn Nant Ffrancon fis Chwefror, dafliad carred o chwarel y Penrhyn

Llynnau MymbyrFfynhonnell y llun, Dennis Owen
Disgrifiad o’r llun,

Llynnau Mymbyr ar ddiwrnod oer ym mis Mawrth gan Dennis Owen

Nythiad o wyau, a chywion Robin GochFfynhonnell y llun, Ian Keith Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plant 'ma'n tyfu... nyth Robin Goch dros gyfnod o amser yn ystod mis Ebrill, gan Ian Keith Jones, un o banelwyr Galwad Cynnar

Blodyn piws ar graigFfynhonnell y llun, Dienw
Disgrifiad o’r llun,

Y Tormaen Cyferbynddail, Tormaen Coch neu'r Tormaen Porffor (Saxifraga Oppositifolia), yng Nghwm Idwal fis Ebrill. Dyma un o blanhigion arctig alpaidd Eryri, sydd yma ers cyfnod yr oes iâ olaf. Mae'n blanhigyn sy’n coloneiddio craciau yn y creigiau ar dir lle bu'r rhewlifoedd

Bwtsias y gogFfynhonnell y llun, Erwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae carped o Glychau'r Gog neu Fwtsias y Gog yn arwydd bod y gwanwyn wedi hen sefydlu. Tynnwyd y llun yma fis Mai gan Erwyn Jones

Y gog yn cael ei erlid gan fronfraithFfynhonnell y llun, Alun Williams
Disgrifiad o’r llun,

Does 'na'm llonydd i'w gael i'r gog yma ar Fynydd Hiraethog. Cafodd y lluniau eu tynnu gan Alun Williams fis Mehefin

LlwynogFfynhonnell y llun, Dafydd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Llwynog yn Llanbedrog fis Mehefin, gan Dafydd Hughes

LleuadFfynhonnell y llun, Angharad Jones
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Jones dynnodd y llun yma o'r lleuad yng Nghaerffili fis Mehefin

Gwalch glasFfynhonnell y llun, Wynn Owen
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelydd i'r ardd... Wynn Owen welodd y gwalch glas yma fis Gorffennaf

Creyr GlasFfynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Crëyr Glas fis Awst, yng Nghors Ddyga, Ynys Môn, wedi ei dynnu gan Derec Owen

Corlan ddefaidFfynhonnell y llun, Nigel Beidas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Beidas yn tynnu lluniau a fideos trawiadol o gasglu defaid mewn corlannau ar y Carneddau. Dyma un o fis Medi, ychydig ar ôl i'r defaid gael eu casglu, a phawb yn cael paned haeddiannol ar y beiciau cwad cyn i'r gwaith didoli ddechrau

Cors DdygaFfynhonnell y llun, Sharon Jones-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gwawrio yng Nghors Ddyga, Ynys Môn, fis Hydref, gan Sharon Owen

Pry cop a nymffFfynhonnell y llun, Harri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tynnwyd y llun yma fis Tachwedd gan Harri Williams, sy'n dweud ei fod yn credu "mai nymff parasitedd ydi'r sach ar gefn y pryf copyn, bosib wedi deillio o ŵy gafodd ei ddodwy ar gefn y corryn gan bryf hofran." Mae peipen i'w weld yn mynd o ben y sach i abdomen y pry cop er mwyn i'r nymff sugno maeth

OctopwsFfynhonnell y llun, Mari Ireland
Disgrifiad o’r llun,

Fis Tachwedd fe ddaeth Mari Ireland ar draws yr olygfa anghyffredin yma ym Mhen Llŷn - octopws wedi ei adael ar y traeth wrth i'r môr fynd allan

Tonnau'r mor yn LlanddwynFfynhonnell y llun, Paula Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y gwynt yn creu tonnau ar ben tonnau'r môr yn Llanddwyn fis Rhagfyr. Llun gan Paula Roberts, un o arbenigwyr Galwad Cynnar