Chwarel Garnwen: Difrod i dai, sŵn a llwch ymysg pryderon
- Cyhoeddwyd
Mae difrod i adeiladau gan ffrwydron, tarfu ar gyflenwadau dŵr, a chynnydd mewn llwch a sŵn ymysg y pryderon sydd wedi eu codi am gynllun i gloddio mewn chwarel yn y gorllewin.
Roedd tua 80 o bobl mewn cyfarfod yng Nghaffi Beca, Efailwen, nos Lun yn sgil y bwriad i ailddechrau cloddio yn Chwarel Garnwen gerllaw.
Mae'r chwarel yn eiddo i gwmni GD Harries, ac wedi bod ar agor ers 1948, ond does yna fawr ddim cloddio wedi bod yno ers 18 mis.
Mae GD Harries, sy'n eiddo i gwmni rhyngwladol SigmaRoc, wedi cyflwyno cais am adolygiad o hen ganiatâd mwynau, er mwyn sicrhau bod y safle yn cydymffurfio gyda rheolau newydd.
Mae'r safle, sydd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, dafliad carreg yn unig o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae'r cloddio'n digwydd yn ysbeidiol yn dibynnu ar faint o alw sydd yna am y cerrig, ac mae ffrwydron yn cael eu defnyddio i chwalu'r garreg ar y safle.
Clywodd y cyfarfod gan drigolion oedd yn honni bod eu cartrefi wedi cael eu difrodi gan ffrwydro yn y chwarel yn y gorffennol.
Fe chwaraeodd Hubert Mathias, sydd yn byw drws nesaf i'r safle, fideo i'r cyfarfod o ffrwydrad ym mis Gorffennaf 2021, wnaeth beri i lestri siglo yn ei gegin.
Dywedodd Mr Mathias bod "llechi ar ben wal goncrit wedi syrthio i ffwrdd" tu allan i'r tŷ.
Dywedodd Chris Porter, sy'n byw gyferbyn â'r chwarel wrth y cyfarfod am ei bryderon am effaith posib y ffrwydro ar gartrefi sydd yn dibynnu ar ddŵr ffynnon.
Yn ôl Mr Porter, roedd ei gartref ei hun wedi dioddef "llwch a sŵn" o'r chwarel.
Dangosodd luniau i'r cyfarfod o ffenest wedi torri, ac fe honodd bod y difrod yn ganlyniad i ffrwydrad yn y chwarel, ynghyd â chraciau yn waliau'r tŷ.
Fe godwyd pryderon gan drigolion o Hebron, oedd hefyd yn bryderus am yr effaith ar eu cyflenwadau dŵr ffynnon, am nad oedden nhw yn medru cael cysylltiad gan Dŵr Cymru.
Dangoswyd lluniau hefyd o lifogydd ar yr A478 yn sgil dŵr o'r chwarel.
'Dim bwriad' creu trafferth
Fe ddywedodd Nick Cleary, Rheolwr Cyffredinol GD Harries, bod y cwmni yn cyflogi 200 o bobl lleol ac yn rhedeg wyth o chwareli.
Mynnodd bod rheidrwydd ar y cwmni i gadw at lefelau sŵn penodol ac "i gydymffurfio â'r cyfyngiadau hynny".
Fe geisiodd Mr Cleary leddfu pryderon trigolion lleol am gyflenwadau dŵr hefyd, gan ddweud "nad oes bwriad gan y cwmni i wneud unrhwybeth i beryglu eich cyflenwadau dŵr".
Yn ôl Mr Cleary, roedd y cerrig yn y chwarel yn adnodd i'r gymdeithas gyfan, ac nad oedd y chwarel wedi bod yn brysur ers 2020 pan gyflenwyd cerrig i gynorthwyo gyda'r ymateb argyfwng i'r ddamwain trên yn Llangennech.
Er bod hawl gan y perchnogion i gloddio am 60,000 tunnell y flwyddyn, dywedodd Mr Cleary nad oedd bwriad gwneud hynny.
Fe fydd y cais am adolygiad yn cael ei ystyried gan Gyngor Sir Caerfyrddin.