Cyhoeddi carfan y merched ar gyfer y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten tîm dan-20 Lloegr, Jenny Hesketh, wedi cael ei henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Chwe Gwlad y merched eleni.
Mae'r clo Shona Wakley yn dychwelyd i'r garfan, tra bo dwy arall o'r ail reng - Natalia John a Gwen Crabb - hefyd yn ôl yn dilyn anafiadau.
Mae Jasmine Joyce a Kayleigh Powell nôl yn y garfan hefyd wedi iddyn nhw fod yn cynrychioli tîm saith-bob-ochr Prydain.
Mae saith o chwaraewyr sydd eto i ennill cap wedi'u cynnwys gan Ioan Cunningham - Hesketh, Cath Richards, Molly Reardon, Sian Jones, Jenni Scoble, Gwennan Hopkins a Mollie Wilkinson.
Mae hynny'n golygu fod rhai wynebau cyfarwydd, fel Robyn Wilkins, Carys Williams-Morris, Cerys Hale a Meg Webb, yn absennol.
Y canolwr Hannah Jones fydd y capten unwaith eto eleni, gydag ymgyrch Cymru i ddechrau yn erbyn Yr Alban ym Mharc yr Arfau ar 23 Mawrth.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr: Gwenllian Pyrs, Abbey Constable, Carys Phillips, Kelsey Jones, Molly Reardon, Sisilia Tuipulotu, Donna Rose, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Natalia John, Gwen Crabb, Bryonie King, Shona Wakley, Alisha Butchers, Georgia Evans, Alex Callender, Kate Williams, Bethan Lewis, Gwennan Hopkins.
Olwyr: Jasmine Joyce, Nel Metcalfe, Jenny Hesketh, Courtney Keight, Kayleigh Powell, Cath Richards, Lisa Neumann, Amelia Tutt, Hannah Jones (capt), Kerin Lake, Hannah Bluck, Carys Cox, Lleucu George, Mollie Wilkinson, Niamh Terry, Keira Bevan, Sian Jones, Meg Davies.
Chwaraewr Datblygu: Hanna Marshall, Seren Singleton, Maisie Davies, Cadi-Lois Davies, Alaw Pyrs.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2024