'Risg i fywyd' ar ôl torri arwyddion ffordd pentref Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

"Mae'r weithred ddifrifol hon o fandaliaeth yn achosi risg sylweddol i fywyd", meddai'r Cynghorydd Edward Thomas
Mae torri arwyddion ffordd mewn pentref yn Sir Gâr "yn achosi risg sylweddol i fywyd", yn ôl cynghorydd lleol.
Daw'r rhybudd yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau lle mae arwyddion ffordd wedi cael eu tynnu i lawr yn anghyfreithlon yn yr ardal.
Cafodd saith o arwyddion ffordd eu tynnu i lawr yn Llangadog a'r cyffiniau dros gyfnod o wythnos, yn ôl Cyngor Sir Gâr.
Mae'r fandaliaeth wedi codi pryderon difrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd gan gynyddu'r perygl o wrthdrawiadau ffordd.
Ymhlith yr arwyddion sydd wedi eu torri mae rhai yn rhybuddio am droadau tynn, cyffordd o'ch blaen a therfyn cyflymder 20mya.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: "Yn ogystal â bod yn anghyfreithlon, mae'r weithred ddifrifol hon o fandaliaeth yn achosi risg sylweddol i fywyd gan mai pwrpas yr arwyddion hyn yw rhoi gwybodaeth i yrwyr am gyflwr y ffordd o'u blaenau.
"Gallai diffyg arwyddion gyfrannu at wrthdrawiad traffig.

"Nid yn unig y mae tynnu'r arwyddion hyn i lawr yn anghyfrifol ac yn beryglus i ddefnyddwyr ffyrdd, ond mae gosod rhai eraill yn eu lle yn gostus iawn i'r awdurdod lleol - gan roi mwy o bwysau byth ar y pwrs cyhoeddus.
"Felly os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad, rwy'n eich annog i roi gwybod iddyn nhw ar unwaith."