Hirwaun: Teyrnged i fachgen 13 oed 'disglair a deallus'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen 13 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Kaylan Hippsley ar ôl iddo gael ei daro gan gar ar Ffordd Aberhonddu ym mhentref Hirwaun.
Dywedodd y teulu ei fod yn fachgen "disglair a deallus" a bod pawb yn hoff ohono yn Ysgol Gymunedol Aberdâr.
"Roedd yn hoff iawn o dreulio amser gyda'i deulu, ac roedd ganddo gylch ffrindiau da iawn."
Fe wnaethon nhw ychwanegu ei fod yn "chwaraewr rygbi a phêl-droed talentog".
"Rydym wedi'n tristau o golli Kaylan mor ifanc, ag yntau ond yn 13 gyda'i fywyd o'i flaen."
"Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb a helpodd ar safle'r ddamwain."
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd3 Mawrth