Bachgen, 13, a gafodd ei daro gan gar yn Hirwaun wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Ffordd AberhondduFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Aberhonddu yn Hirwaun nos Iau

Mae bachgen a gafodd ei anafu mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Iau wedi marw yn yr ysbyty.

Roedd Kaylan Hippsley yn 13 oed ac yn dod o ardal Hirwaun.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Aberhonddu yn y pentref am 18:25, wedi adroddiadau bod cerddwr ifanc wedi cael ei daro gan gar Ford Fiesta brown.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth Harley Whiteman, 19 oed o Hirwaun, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol tra'n gyrru'n beryglus ac o beidio â rhoi sampl i swyddogion.

Mae wedi cael ei gadw'n y ddalfa.

Mae plismyn yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig