Pryd mae’r etholiad cyffredinol nesaf, a phwy sy’n penderfynu?
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyfalu'n cynyddu ynglŷn â phryd fydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal.
Ym mis Ionawr, dywedodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak ei fod yn disgwyl galw'r etholiad yn ystod "ail hanner" 2024.
Pryd mae'r etholiad cyffredinol nesaf i fod?
Yr hwyraf y gellir diddymu Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol yw pum mlynedd union ers y diwrnod cyntaf iddyn nhw gwrdd.
Ar gyfer y Senedd bresennol, y dyddiad hwnnw yw 17 Rhagfyr 2024.
Ond mae 25 diwrnod gwaith yn cael ei ganiatáu i baratoi ar gyfer yr etholiad.
Mae hynny'n golygu bod yn rhaid cynnal yr etholiad nesaf erbyn 28 Ionawr 2025.
Pwy sy'n penderfynu pryd fydd yr etholiad?
Prif Weinidog y DU sy'n penderfynu, ond nid yw hynny wastad wedi bod yn wir.
Yn 2011 fe wnaeth deddfwriaeth ddileu pŵer y Prif Weinidog i ddewis dyddiad etholiad, a rhoddwyd rheolaeth i Dŷ'r Cyffredin yn lle hynny.
O dan y rheolau hynny, dim ond o dan rhai amgylchiadau y gallai etholiad cynnar gael ei alw - er enghraifft, pe bai dwy ran o dair o Aelodau Seneddol yn cytuno.
Er hynny, ar ôl ennill etholiad 2019, cyflwynodd y Ceidwadwyr Ddeddf Diddymu a Galw Senedd y DU 2022.
Fe wnaeth hyn adfer pŵer y Prif Weinidog i alw etholiad cyffredinol ar adeg o'u dewis, o fewn y cyfnod o bum mlynedd.
Beth mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud?
Ym mis Ionawr dywedodd Mr Sunak ei fod "yn gweithio ar y sail y byddwn yn cael etholiad cyffredinol yn ystod ail hanner eleni".
Ym marn nifer o sylwebyddion, ni fydd colli'r isetholiadau diweddar yn newid y disgwyliad hwnnw.
Fe wnaeth Llafur wrthdroi mwyafrif mawr y Ceidwadwyr ym mis Chwefror i ennill yn Wellingborough a Kingswood.
Pan enillodd George Galloway isetholiad Rochdale, roedd cyfran y Ceidwadwyr o'r bleidlais i lawr 19%.
Dywedodd yr arbenigwr etholiadau Syr John Curtice mai dyma'r cwymp mwyaf ym mhleidlais y Ceidwadwyr mewn sedd Lafur mewn unrhyw isetholiad yn ystod y Senedd hon.
Sut mae'r Prif Weinidog yn galw etholiad?
Mae'r Prif Weinidog yn gofyn yn ffurfiol i'r Brenin "ddiddymu'r Senedd" - y term swyddogol am gau'r Senedd cyn etholiad.
Fel arfer, mae'r bleidlais yn digwydd 25 diwrnod yn ddiweddarach.
Adeg diddymu'r Senedd, mae Aelodau Seneddol yn colli eu statws, ac yn gorfod ymgyrchu dros gael eu hail-ethol os ydyn nhw am barhau.
Mae rhai Aelodau Seneddol yn dewis rhoi'r gorau iddi.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dechrau cyfnod cyn-etholiadol - a oedd yn cael ei alw'n "purdah" - sy'n cyfyngu ar weithgarwch gweinidogol ac adrannol yn ystod yr ymgyrch.
Beth sy'n digwydd mewn etholiad cyffredinol?
Mae'r DU wedi cael ei rhannu'n 650 o ardaloedd, sy'n cael eu galw'n etholaethau.
Mae pob un yn ethol Aelod Seneddol i gynrychioli ei thrigolion yn Nhŷ'r Cyffredin yn Llundain.
Ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleiswyr cofrestredig ym mhob etholaeth yn pleidleisio dros ymgeisydd o'i dewis nhw yn eu gorsaf bleidleisio leol.
Mae rhai pobl yn pleidleisio drwy'r post ymlaen llaw.
Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn cynrychioli plaid wleidyddol benodol, ond mae rhai yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol.
Mewn etholiad cyffredinol, mae gan bob person un bleidlais.
O dan y system "cyntaf i'r felin", yr ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n dod yn Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal honno.
Ar ôl i'r pleidleisiau gael eu cyfri, mae'r Brenin yn gofyn i arweinydd y blaid sydd â'r nifer fwyaf o Aelodau Seneddol ddod yn brif weinidog ac i ffurfio llywodraeth.
Arweinydd y blaid sydd â'r ail nifer uchaf o Aelodau Seneddol sy'n dod yn arweinydd yr wrthblaid.
Os nad oes unrhyw blaid â mwyafrif o Aelodau Seneddol yn y pen draw - sy'n golygu na all basio deddfwriaeth gyda dim ond ei Haelodau Seneddol ei hun - mae'r canlyniad yn cael ei galw'n Senedd grog.
Ar y pwynt yma, efallai y bydd y blaid fwyaf yn ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phlaid arall.
O dan y trefniant yma, mae Aelodau Seneddol o'r ddwy blaid yn gwasanaethu fel gweinidogion y llywodraeth.
Fel arall, gall ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan lenwi'r holl swyddi gweinidogol gyda'i Haelodau Seneddol ei hun, ond bydd yn dibynnu ar bleidleisiau gan bleidiau eraill i basio unrhyw ddeddfau.
Pwy sy'n gallu pleidleisio?
Unrhyw un sydd ar y gofrestr etholiadol, sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais, cyn belled â'u bod:
yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu'n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon gyda chyfeiriad yn y DU;
gall holl ddinasyddion y DU sy'n byw dramor gofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth lle roedden nhw'n ar y gofrestr etholiadol;
heb eu heithrio'n gyfreithiol rhag pleidleisio.
Gallwch gofrestru i bleidleisio unrhyw bryd os ydych yn 16 oed neu'n hŷn - neu'n 14 oed neu'n hŷn yn Yr Alban.
All yr wrthblaid orfodi etholiad?
Rhaid i'r Prif Weinidog gael "hyder" Tŷ'r Cyffredin i lywodraethu, sy'n golygu bod rhaid iddyn nhw gael eu cefnogi gan fwyafrif yr Aelodau Seneddol.
Mae cynnig o ddiffyg hyder yn golygu bod Aelodau Seneddol o bob plaid yn penderfynu a ydyn nhw am i'r llywodraeth barhau.
Os bydd arweinydd yr wrthblaid yn cyflwyno cynnig o'r fath, mae disgwyl i'r llywodraeth neilltuo amser seneddol ar gyfer dadl a phleidlais.
Er mwyn i'r cynnig basio, y cyfan sydd ei angen yw un Aelod Seneddol yn fwy i bleidleisio o blaid nag yn erbyn.
Os bydd y llywodraeth yn colli'r bleidlais, fel arfer mae etholiad cyffredinol yn cael ei alw.