Rhybudd teulu yn dilyn 'hunllef' tân sychwr dillad

  • Cyhoeddwyd
Tan
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y tân yma, ble roedd peiriant sychu dillad

Mae cwpl o'r gogledd wedi rhannu eu profiad o dân yn eu cartref yn y gobaith y bydd yn arbed pobl eraill rhag byw drwy'r "hunllef".

Dywedodd y teulu o Ddinbych, sy'n wynebu bod allan o'u cartref am fisoedd oherwydd y difrod, bod angen i bawb wybod beth sy'n gallu digwydd "mor sydyn".

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd brys ar ôl cael eu galw i dri thân difrifol o fewn wythnos oherwydd peiriannau sychu dillad.

Dywedodd y gwasanaeth ei bod yn ffodus nad oedd unrhyw anafiadau yn y digwyddiadau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Euros Jones ac Emma Vaughan yn priodi ymhen pythefnos

Roedd peiriant sychu Euros Jones ac Emma Vaughan wedi bod ymlaen fore Mercher yn yr ystafell fach gefn yn eu cartref.

Cyn mynd i'w gwaith fe wnaeth Emma ei ddiffodd, ac agor drws y peiriant.

Ond mae'n debyg nad oedd wedi oeri'n ddigonol, a dyna achosodd y tân.

Ffenestri wedi toddi

Roedd y gwres mor eithafol yn yr ystafell fach bod y ffenestri wedi toddi.

Gan fod drws yr ystafell ar gau ni wnaeth y tân ledaenu i weddill y tŷ, ond mae'r gegin, ystafell fwyta a'r ystafell fyw wedi eu dinistrio'n llwyr gan y mwg.

Mae'r mwg hefyd wedi treiddio i'r ail lawr ac wedi gadael ei ôl yn yr ystafelloedd gwely.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mwg wedi achosi difrod mawr i rannau eraill o'r tŷ

Wrth grwydro'r tŷ, dywedodd Emma fod "popeth wedi mynd", yn cynnwys eitemau sentimental, a bod ganddi "ddim geiriau".

Cyn i'r diffoddwyr gyrraedd, dywedodd Emma ei bod wedi mynd i mewn i'r tŷ, ond ei bod yn difaru gwneud hynny.

"O'dd na gymaint o fwg, mi faswn i wedi gallu mynd ar goll yn y tŷ. A dwi'n teimlo'n wirion am y ffaith mod i wedi cymryd risg a mynd i mewn."

Mae hi bellach eisiau rhannu ei stori, ar ôl siarad â chymaint o bobl sydd wedi dweud eu bod "yn gwneud union yr un peth bob dydd".

Rhyngddyn nhw mae gan y cwpl bump o blant, ac yn cyfri eu bendithion fod neb adref pan ddigwyddodd y cwbl.

Mae'r cwpl hefyd yn priodi ymhen pythefnos, ac roedden nhw wedi bwriadu cynnal y parti nos yn eu cartref.

Yn ôl Erina Jones, mam Euros, mae'n "frawychus bod o 'di digwydd mewn cyn lleied o amser".

"Eiliad mae o'n gymryd i ddamwain mor ofnadwy ddigwydd. O'dd hi'n ofnadwy yma, doeddech chi methu coelio ffasiwn beth."

Disgrifiad o’r llun,

Wrth i Erina ac Emma grwydro'r tŷ, dywedodd Emma bod "dim geiriau" i ddisgrifio'r difrod

Yn ogystal â'r effaith ar y cwpl, dywedodd bod y plant "yn ddrwg ofnadwy pan 'naethon nhw weld y lle".

Yn sgil y dinistr, mae ganddi neges i eraill sy'n defnyddio'r peiriannau: "Troi popeth i ffwrdd, y peiriannau i gyd, a chau y drysau yn bob man, g'neud yn siŵr bod bob man yn saff cyn i chi fynd i'ch gwely."

Cyngor gwasanaeth tân

Mae ystadegau diweddar gan wasanaethau tân ac achub Cymru yn dangos fod 158 o danau ar gyfartaledd, bob blwyddyn, yn dechrau mewn peiriannau mawr mewn cartrefi fel oergelloedd neu beiriannau golchi dillad.

Mae 57% o'r rheiny yn digwydd mewn peiriannau sychu dillad.

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi cyhoeddi rhybudd a chyngor yn sgil y digwyddiadau o fewn yr wythnos ddiwethaf.

Maen nhw'n dweud:

  • Peidiwch â gorlwytho socedi â phlygiau - mae peiriant sychu dillad angen soced ei hun;

  • Peidiwch â rhoi peiriant i sychu heb fod rhywun yn cadw golwg arno;

  • Glanhewch yr hidlwr ar ôl defnyddio'r peiriant;

  • Sicrhewch fod eich peiriant wedi ei awyru'n dda;

  • Gadewch i'r peiriant oeri yn llwyr cyn ei wagio;

  • Peidiwch ag anwybyddu rhybuddion o broblem - fel arogl llosg neu ddillad sy'n boethach nag arfer;

  • Sicrhewch fod larwm tân sy'n gweithio yn y tŷ.

Pynciau cysylltiedig