Gŵyl gorawl: Ceisio rhoi hwb i gorau meibion
- Cyhoeddwyd
Mae un o arweinyddion corawl adnabyddus Cymru yn poeni am ddyfodol corau meibion yng Nghymru, gyda llai o gorau yn bodoli wedi'r pandemig.
Bydd Gŵyl gorawl fawr Cymdeithas corau Meibion Cymru yn cael ei chynnal fis Ebrill gyda'r bwriad o "feithrin a hyrwyddo'r grefft o gerddoriaeth gorawl Meibion a gweithiau corawl Cymreig".
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal dair blynedd yn hwyrach na'r disgwyl oherwydd y pandemig.
Mae disgwyl i 650 o gantorion o dros 23 o gorau ymuno mewn cân ar lwyfan neuadd Albert, Llundain ar y 27ain o Ebrill.
Mae dros 100 o gorau yn aelodau'r Gymdeithas a gafodd ei ffurfio ym 1962 , ac mae'n cynnwys chwe chôr o dramor, o wledydd fel UDA, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica a Chanada.
'Mae'n mynd yn fwy ac yn fwy anodd'
Wrth baratoi ar gyfer y gyngerdd mae'r arweinydd Alwyn Humphreys yn dweud ei fod yn edrych ymlaen yn fawr, ond ar yr un pryd yn poeni am ddyfodol corau meibion Cymru.
"Mae'n mynd yn fwy ac yn fwy anodd. Dwi'n meddwl fod covid hefyd wedi cael dylanwad aruthrol o wael gyda rhai corau wedi rhoi gorau iddi yn gyfan gwbl achos roedd pobl yn methu mynd allan."
Aeth ymlaen i ddweud: "Unwaith ry' chi'n colli'r arfer o fynd i rihyrsal unwaith neu ddwywaith yr wythnos mae eistedd yn y tŷ yn gallu ymddangos yn rhywbeth neis i 'neud".
Mae'r arweinydd adnabyddus hefyd yn poeni am ddiffyg aelodau newydd ifanc.
Dywedodd: "Mae pobl hefyd yn mynd yn hŷn... dyna broblem arall i'r corau.
"Mae'r corau meibion bellach yn mynd yn gorau o hen ddynion".
Wrth baratoi ar gyfer y gyngerdd mae ef, a threfnwyr y noson yn gobeithio y bydd y digwyddiad mawr yn neuadd Albert yn hwb i'r corau ac yn helpu i ddenu aelodau newydd.
Mae Alun Thomas sy'n canu gyda chôr Silwriaid Rhymni o'r farn bod y cyngherddau mawr yn "galluogi y corau bychain sydd efallai ddim yn cael cyngherddau, i gael rhaglen o waith yn ystod y flwyddyn ac ymarfer y darnau a chael y fraint o ganu yn dorfol wedyn".
Nid ar chwarae bach mae canu yn Neuadd Albert yn ôl Alun Thomas: "Mae'r corau wedi bod yn paratoi ar gyfer y cyngerdd yma ers tua pum mlynedd oherwydd covid, a dyma fuodd eu bara menyn nhw yn ystod y gaeaf".
Bu Derrick Rowlands o Gwm Gwendraeth yn canu am flynyddoedd lawer gyda chôr meibion Dyffryn Tywi, ond fe ddaeth y côr hwnnw i ben oherwydd covid.
Erbyn hyn, mae'n canu gyda chôr meibion Mynydd Mawr, y Tymbl ac yn disgrifio corau meibion fel "rhywbeth pwysig".
"Ry' chi'n cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd ac yn cynnal y traddodiad o gorau meibion sy wedi bod yn gryf yng Nghymru dros y blynydde.
"Gobeithio bydd e yn helpu i gadw'r traddodiad yna i fynd am flynydde lawer i ddod."
'Mae'n rhaid gwybod eich stwff!'
Un arall sy'n helpu gyda threfniadau'r gyngerdd yw Ellis Davies, aelod arall o Gôr Mynydd Mawr.
Dywedodd bydd corau o wledydd gwahanol yn camu ar y llwyfan yn Llundain.
"Mae côr o Mansefield gyda ni a chôr o Swydd Caint, a chorau o dramor fel Côr Burlington Welsh o Ganada.
"Bydd rhaid i'r corau yma i gyd ddysgu'r caneuon Cymraeg sydd ar y rhaglen, a does dim copïau ar y llwyfan."
Fe ychwanegodd: "Does dim chware ambwyti, ma' rhaid gwybod eich stwff".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020