Cyfle i roi enwau Cymraeg tafarndai lleol ar fap

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Wyn Williams fu'n esbonio cynllun newydd sy'n cynnig y cyfle i bobl nodi enwau tafarndai

Mae pobl yn cael eu hannog i ychwanegu enwau Cymraeg eu tafarndai lleol ar fap.

Er bod y sgwrs am warchod enwau Cymraeg ar gaeau, strydoedd ac ardaloedd yn un cyffredin, mae'r prosiect yma yn gobeithio mynd gam ymhellach gan sicrhau fod enwau Cymraeg yn amlwg ar fapiau.

Mae MapioCymru yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn annog pobl i nodi enwau Cymraeg ar y map, gan ddechrau gydag enwau tafarndai lleol.

Oes enw Cymraeg ar eich tafarn leol chi?

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Wyn Williams o Mapio Cymru eu bod yn "ceisio sicrhau fod pawb yn gallu edrych ar ôl yr iaith drwy'r cyfle i ychwanegu tafarn at y map".

Disgrifiad o’r llun,

Tafarn yr Iorweth oedd yn un o'r cyntaf i gael ei rhoi ar y map

Aeth ymlaen i sôn am bwysigrwydd ennyn diddordeb y genhedlaeth iau yn y prosiect.

"Un o bleserau mawr y prosiect yw mynd i ysgolion cynradd a gweld wynebau plant yn goleuo fyny pan maen nhw'n gweld yr enwau Cymraeg ar y map achos dy' nhw ddim yn arfer gweld hynny".

Ei obaith yw annog y cyhoedd i nodi enw'r dafarn leol ar y map: "Yn arbennig os yw eich tafarn leol chi gydag enw Cymraeg, byddwn ni'n ddiolchgar iawn pe bai pobl yn gallu ychwanegu nhw at y map".

Drwy wneud hyn bydd enwau Cymraeg y tafarndai yn ymddangos ar fap swyddogol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r criw fu'n rhan o'r sgwrs yn Nhafarn yr Iorweth

Dywedodd Wyn Williams fod y cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu enw tafarn ar Mapio.Cymru a bod "unrhyw un yn gallu ychwanegu at y map".

Gyda mapiau yn dangos enwau Cymraeg am lynoedd a mynyddoedd eisoes yn bodoli, y gobaith yw llenwi'r map gydag enwau Cymraeg tafarndai.

Mae criw Mapio Cymru eisoes wedi cynnal sesiwn i drafod beth y gellir ei wneud i wella'r ddarpariaeth o enwau Cymraeg ar fapiau, a hynny yn Nhafarn yr Iorwerth, Ynys Môn.

Roedd Tafarn yr Iorweth yn un o'r tafarndai cyntaf i ychwanegu eu henw ar y map.

Pynciau cysylltiedig