Tro pedol dros roi enw Saesneg ar dŷ tafarn Y Pentan

  • Cyhoeddwyd
Y PentanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dafarn yng nghanol tref Yr Wyddgrug

Mae cwmni tafarnau wedi gwneud tro pedol ar eu penderfyniad i ailenwi bar yn Sir y Fflint.

Roedd Admiral Taverns eisiau rhoi enw Saesneg ar Y Pentan yn yr Wyddgrug fel rhan o broses adnewyddu.

Ond galwodd nifer yn lleol ac ar y cyfryngau cymdeithasol i'r cwmni gadw'r enw Cymraeg.

Mewn e-bost yn cadarnhau'r tro pedol, dywedodd y perchnogion mai "nid ein bwriad oedd gwawdio na bychanu'r iaith Gymraeg".

Ffynhonnell y llun, Gwefan Admiral Taverns
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o wefan Admiral Taverns gyda'r enw roedd y cwmni'n bwriadu mabwysiadu

Mae Admiral Taverns yn bwriadu adnewyddu'r dafarn, a'r nod oedd mabwysiadu'r enw Tailor's Rest fel rhan o hynny.

Mae cyfeiriad yn yr enw hwnnw at y nofelydd Daniel Owen, oedd yn gweithio fel teiliwr ar safle presennol y dafarn.

Ond mynegodd nifer, gan gynnwys Hannah Blythyn AC, eu pryderon am ddileu'r enw Cymraeg, sy'n tarddu o enw un o gyfrolau'r nofelydd.

Dywedodd un defnyddiwr Twitter bod y syniad o ailenwi yn "rwtsh, gydag un arall yn dweud wrth y cwmni nad ydy'r enw yn rhwystr i bobl ddi-Gymraeg fynd yno.

Disgrifiad o’r llun,

Medal er cof am Daniel Owen sy'n cael ei rhoi i enillydd prif gystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol am ysgrifennu nofel

Mewn e-bost at y cwynwyr ddydd Mercher, dywedodd y cwmni na fyddai'r enw'n newid.

"Rydyn ni wedi bod, ac yn parhau i fod, yn gwmni sy'n cael ein harwain gan ein cymunedau ac felly rydyn ni'n cymryd pob cwyn o ddifrif.

"Nid ein bwriad oedd gwawdio na bychanu'r iaith Gymraeg."

Ychwanegodd: "Fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer Y Pentan, rydyn ni'n awyddus i fuddsoddi yn y dafarn i sicrhau bod ganddi ddyfodol cynaliadwy hirdymor fel tafarn leol boblogaidd."