Dirwy i berchennog siop sglodion yn Llangefni
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog siop sglodion yn Llangefni wedi pledio'n euog i gyhuddiad o dorri rheolau masnachu ar ôl codi mwy ar gwsmeriaid oedd yn talu gyda cherdyn.
Derbyniodd Duran Sasmaz, perchennog Siop Pysgod a Sglodion Aran ddirwy o £1,512 gan Lys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher.
Clywodd yr ynadon bod cwsmeriaid wedi gorfod talu 50 ceiniog yn ychwanegol rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2023 pan yn defnyddio eu cerdyn credyd neu gerdyn banc ar gyfer trafodion o lai na £15.
Fe wnaeth Mr Sasmaz, o Ben Derwydd, Llangefni, addo roi ei enillion - a gytunwyd gan yr amddiffyniad a'r erlyniad i fod tua £6,000 - i fanc bwyd lleol, ac mae eisoes wedi cyfrannu £3,000 i'r elusen o'i wirfodd.
'Cwestiynu tâl ychwanegol'
Ers 2018 nid yw busnesau yn cael ychwanegu unrhyw daliadau ychwanegol am dalu gyda cherdyn yn hytrach nag arian parod, ond clywodd y llys nad yw'n golygu nad oes hawl gan fusnesau i osod isafswm gwariant [minimum spend].
Er i Mr Sasmaz, dderbyn rhybuddion blaenorol, roedd yr achos wedi ei gyfeirio at Safonau Masnach Ynys Môn wedi i gynghorydd glywed cwsmer yn cwestiynu tâl ychwanegol yr oedd wedi ei godi wrth dalu am bryd yn y siop tecawê ar Stryd y Bont, Llangefni.
Cadarnhaodd pryniant prawf ac yna ymchwiliad ym mis Mawrth 2023 bod y taliad ychwanegol yn cael ei godi.
Dywedodd erlynwyr bod "y rhybuddion blaenorol yn ffactor", ond er bod enillion Mr Sasmaz yn sgil y taliadau ychwanegol wedi bod yn "anodd i'w mesur", cytunodd y ddwy ochr fod £6,100 yn "ffigwr rhesymol".
Dywedodd Mr Sasmaz, a oedd "o gymeriad da a gydag enw da yn lleol", fod cwsmeriaid "bob amser wedi'u hysbysu bod y taliad wedi ei ychwanegu", ond nid oedd unrhyw arwyddion yn cael eu harddangos yn y siop yn nodi hyn.
'Costau cynyddol'
Dywedodd Gareth Parry, ar ran yr amddiffyn, fod y siop yn "un o 10 busnes tecawê yn Llangefni" a thra bod llawer o fusnesau bwyd wedi gwrthod cymryd taliadau cerdyn yn y gorffennol, fod y pandemig yn golygu bod "y mwyafrif yn cael eu hannog i symud i dalu â cherdyn".
Clywodd yr ynadon fod costau cynyddol "yn ddieithriad wedi cael effaith sylweddol ar elw", ac er ei fod yn cydnabod bod Mr Sasmaz wedi derbyn rhybuddion blaenorol, nid oedd "wedi deall goblygiadau" codi'r gor-dâl.
Ychwanegodd bod deddfwriaeth sy'n golygu na ellir codi tâl ychwanegol ar ddefnyddwyr am dalu â chardiau debyd neu gredyd, yn golygu bod disgwyl i fusnesau amsugno'r costau ychwanegol.
Gan nodi bod ei gleient wedi dangos edifeirwch ac wedi pledio'n euog ar y cyfle cyntaf, dywedodd Mr Parry fod ei gleient yn dymuno "ymddiheuro am y camddealltwriaeth".
Ac yntau eisoes wedi rhoi £3,000 i Fanc Bwyd Ynys Môn o'i wirfodd, roedd Mr Sasmaz yn bwriadu rhoi swm tebyg yn y dyfodol "i wneud iawn am y golled net i'r cyhoedd" a "dangos ei edifeirwch mewn ffordd ymarferol".
Gan dderbyn ei ble euog cynnar, dywedodd yr ynadon eu bod yn "disgwyl yn gryf" i weddill y £6,000 gael ei dalu i'r banc bwyd.
Ar ôl pledio'n euog o fynd yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg, derbyniodd Mr Sasmaz ddirwy o £1,512 gan gynnwys costau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023