Elusen Y Bont: 'Mwy o deuluoedd angen help ers Covid'
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o alw am gymorth i deuluoedd ers y pandemig, yn ôl prif weithredwr elusen sy'n helpu plant a phobl ifanc.
Mae cynnydd mewn costau byw hefyd wedi gwaethygu'r sefyllfa meddai Val Owen, o elusen Y Bont, yng Ngwynedd.
"Mae'r galw yn cynyddu, cyn y cyfnod clo mi roeddan ni'n brysur ond ers y cyfnod clo 'dan ni wedi bod yn brysur ofnadwy," meddai ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru.
"Mae heriau sydd yn wynebu teuluoedd ar hyn o bryd - costau byw, plant ella yn cael trafferthion ailafael mewn addysg - maen nhw'n creu anghytundeb oddi fewn i deuluoedd, felly weithiau mae angen help rhywun annibynnol i wneud y cymodi yna ac i gael pobl i siarad efo'i gilydd."
Rhan o waith elusen Y Bont, a arferai gael ei hadnabod fel Ymddiriedolaeth Cartref Bontnewydd, ydi gwneud gwaith cymodi rhwng teuluoedd.
Mae chwech o bobl yn gwneud y gwaith drwy siarad efo'r ddwy ochr yn annibynnol a cheisio cael ffordd ymlaen.
"'Da ni'n gwrando ar y ddwy ochr... 'da ni'n trio wedyn cael nhw at ei gilydd rownd y bwrdd," meddai Ms Owen. "Weithiau tydi nhw ddim hyd yn oed yn fodlon eistedd yn yr un stafell â'i gilydd felly 'da ni'n gwneud cymodi gwennol.
"Mae un person mewn un 'stafell, person arall mewn 'stafell arall a 'da ni'n mynd yn ôl ac ymlaen rhyngddyn nhw i gael rhyw fath o gytundeb, ac wedyn trio cael nhw yn yr un stafell â'i gilydd."
Prinder rhieni maeth
Mae'r elusen, gafodd ei sefydlu yn 1898 ac sydd bellach wedi ei lleoli ym Mhen-y-groes, hefyd yn cynnig gwasanaethau ym maes maethu.
Dywedodd Ms Owen ei bod hi wedi gweld gwahaniaeth mawr ers iddi ddechrau gweithio i elusen Y Bont yn 1991.
"Pan 'nes i gychwyn fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghartref Bontnewydd mi roeddan ni'n cael ymholiadau cyson, wythnosol, dyddiol bron iawn gan bobl isho maethu ac roeddan ni'n rhoi cyrsiau ymlaen efo 20-30 o bobl yn dod yn gyson.
"Mae hynny rŵan yn mynd yn llai a llai. 'Dan ni ar ganol cwrs ar hyn o bryd i bedwar awdurdod lleol ac mae 'na chwe aelwyd - naw o bobl - ar y cwrs yna. A hynny ar draws pedwar awdurdod lleol."
Mae ei phrofiad yn cael ei adlewyrchu ar draws Cymru gyda ffigyrau diweddar gan rwydwaith Maeth Cymru yn dangos bod angen gofal maeth ar bum plentyn newydd bob dydd yng Nghymru, ac maen nhw'n amcangyfrif bod angen 600 o ofalwyr maeth ychwanegol.
Pwysau ariannol a phatrymau byw ydi'r prif resymau dros y prinder gyda phobl efo llai o amser i faethu ac angen gwaith cyflogedig i dalu costau byw.
Mae Ms Owen yn galw am ddigolledu rhieni maeth yn well er mwyn denu mwy ohonyn nhw a gwneud yn siŵr nad yw plant yn dioddef.
"Os ydi'r awdurdod lleol methu lleoli plant yn agos i'w cartrefi, yn agos i'w ysgol, mae'r plant yn gorfod mynd yn bellach o adra a rhai plant ella yn eu harddegau yn gorfod mynd mor bell a chael eu lleoli yn Lloegr," meddai.
"Wrth gwrs tydi hynny ddim yn dda o ran iaith, tydi ddim yn dda o ran addysg, a tydi o ddim yn dda o ran cadw cysylltiad â'u cynefin a'u teulu - felly dyna ydi'r peryg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i gynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru".
"Rydyn ni'n gweithio yn agos gyda'n cynllun maethu cenedlaethol Maethu Cymru i helpu awdurdodau lleol i sicrhau cyflenwad parod o ofalwyr maeth," meddai llefarydd.
Mae cyfweliad Val Owen i'w glywed yn llawn ar raglen Bore Sul am 08:00 fore Sul ac yna ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2022