Crwneriaid y gogledd yn mynnu atebion gan fwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
crwner

Dyw gwersi ddim wedi eu dysgu i osgoi rhagor o farwolaethau yng ngogledd Cymru, meddai crwneriaid wrth y gweinidog iechyd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae crwneriaid yng Nghymru wedi cyhoeddi 41 o "adroddiadau osgoi marwolaethau yn y dyfodol" ond fe gafodd mwy na hanner y rheiny eu cyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gwasanaethu'r gogledd.

Dywedodd Eluned Morgan fod y 27 o adroddiadau sydd wedi eu cyflwyno i'r bwrdd ers Ionawr 2023 "yn bryder sylweddol".

Ychwanegodd fod pob un ond tri o'r marwolaethau wedi digwydd cyn i'r bwrdd gael ei ddychwelyd i fod o dan fesurau arbennig yn Chwefror 2023.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards: "Rydw i'n cydnabod yn llwyr pa mor bwysig ydi'r adroddiadau yma, a bod y niferoedd yng Ngogledd Cymru yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

"Rydyn ni'n parhau i ddeall ac ymateb i'r prif themau sydd yn yr adroddiad yma. Mae'n rhaid i ni wneud gwelliannau a sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaethau o safon sy'n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch cleifion."

'Mynegi rhwystredigaeth'

Mae cwest yn gallu digwydd beth amser wedi'r farwolaeth - rai blynyddoedd weithiau - gydag un o'r marwolaethau dan sylw yn dyddio nôl i 2016.

Mae "pryderon systemig" sy'n dod i'r amlwg fel themâu cyffredin o adroddiadau'r crwneriaid yn cynnwys:

  • Safon ymchwiliadau ac effeithiolrwydd gweithredoedd;

  • Diffyg cofnodion integredig meddygol electroneg sy'n effeithio ar ofal;

  • Effaith oedi yn y system ar amseroedd ymateb ambiwlansys.

Mewn datganiad ysgrifenedig yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y gweinidog fod y bwrdd iechyd wedi ei sicrhau eu bod yn "ystyried y mater o ddifri".

Dywedodd Ms Morgan ei bod wedi cwrdd gyda'r ddau uwch-grwner dros ogledd Cymru, ac roedden nhw wedi "mynegi eu rhwystredigaeth am ddiffyg dysgu hanesyddol o fewn y sefydliad, a pharatoad gwael am gwestau".

Ychwanegodd y datganiad fod gwelliannau wedi eu gwneud i brosesau cwest y bwrdd iechyd, ond yr amcangyfrif yw fod 350-400 o achosion yn dal i ddisgwyl cael dyddiad am gwest.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n hanfodol ein bod yn deall pam bod y marwolaethau yma wedi digwydd," medd Llyr Gruffydd AS

'Pryderus'

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething, i egluro pam fod cymaint o farwolaethau y gellir fod wedi eu hosgoi wedi digwydd ar ôl i'r bwrdd iechyd gael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn 2021.

Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru: "Mae lefel y marwolaethau rhwystradwy yn ddigon pryderus i grwneriaid ei nodi. Mae'n hanfodol ein bod yn deall pam bod y marwolaethau yma wedi digwydd, a beth y gallwn ni wneud i'w hatal rhag digwydd yn y dyfodol."

Yn ogystal â'r 27 o adroddiadau gafodd eu cyflwyno i Fwrdd Betsi Cadwaladr, fe gafodd 10 eu cyflwyno i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, chwech i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, dau i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe, un i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ac un i Addysg a Gwella Iechyd Cymru.