Cyngor i bobl osgoi teithiau trên ar brif linell y de

  • Cyhoeddwyd
TrênFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Trafnidiaeth Cymru'n cynghori pobl i beidio â cheisio teithio ar drenau am gyfnod ddydd Llun oherwydd "amhariad difrifol" ar Brif Linell De Cymru.

Oherwydd problemau signalau a thrydan rhwng Pen-y-bont a Llanelli, mae'n amhosib i drenau deithio rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin, nag ar hyd lein Calon Cymru rhwng Abertawe a'r Amwythig, sy'n stopio mewn sawl gorsaf yn y canolbarth.

Mae'r sefyllfa hefyd yn effeithio ar wasanaethau lein Maesteg a lein Bro Morgannwg.

O ganlyniad mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhybudd Peidiwch  Theithio, dolen allanol "tan o leiaf 13:00 ddydd Llun".

'Teithio yfory os yn bosib'

Mae yna wasanaeth bws "cyfyngedig iawn" ar gyfer cludo rhai teithwyr ond mae Trafnidiaeth Cymru'n annog cwsmeriaid "i deithio yfory os yn bosib".

Fe fydd tocynnau pobl oedd wedi bwriadu teithio ddydd Llun yn dal yn ddilys i'r rhai sy'n gohirio'u cynlluniau tan ddydd Mawrth.

Mae trafferthion y rheilffyrdd yn gur pen ychwanegol i bobl sy'n bwriadu teithio o'r gorllewin ar ddiwrnod olaf penwythnos y Pasg.

Fe rybuddiodd Heddlu Dyfed-Powys fore Llun bod disgwyl i'r A40 fod ar gau am gyfnod hir, rhwng Caerfyrddin a Sanclêr, yn dilyn gwrthdrawiad yn yr oriau mân.

Roedd ar gau am dros saith awr cyn ailagor ddechrau'r prynhawn.

Roedd yna drafferthion beth bynnag ar lein y Gororau i'r Amwythig ers yn gynnar ddydd Llun yn dilyn achos posib o ddwyn ceblau.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i edrych ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol am y wybodaeth ddiweddaraf.