Trafferthion posib i deithwyr trên yn sgil streic
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy'r penwythnos mae yna rybudd y gallai teithwyr trenau wynebu trafferthion a newidiadau i'w trefniadau wrth i yrwyr weithredu fel rhan o anghydfod hirfaith ynglŷn â chyflogau.
Fe allai'r streic amharu ar siwrne teithwyr o rannau o Gymru i Lundain.
Ddydd Gwener bydd holl wasanaethau cwmni Avanti West Coast - sydd yn gyfrifol am wasanaethau o Gaergybi, Bangor a Wrecsam i Lundain a Birmingham - yn cael eu canslo.
Ddydd Sadwrn bydd y streic yn taro cwmni Great Western Rail (GWR).
Mae trenau GWR yn teithio rhwng y de a Llundain ac mae'r cwmni'n rhybuddio mai ychydig iawn o'u trenau fydd yn rhedeg, ac ni fydd gwasanaethau rhwng Llundain a Reading oherwydd gwaith peirianyddol.
Yn ôl llefarydd fe allai teithwyr sydd angen mynd o'r de i Lundain ddydd Sadwrn orfod teithio trwy Birmingham i Euston.
Dyw Trafnidiaeth Cymru ddim yn rhan o'r anghydfod ac fe ddywedodd llefarydd y byddai eu trenau nhw felly yn rhedeg fel arfer, ond roedd rhybudd y gallent fod yn brysur.
Mae pob cwmni ac hefyd y Rail Delivery Group (RDG) - sef y grŵp sy'n gweithredu ar ran cwmnïau a theithwyr - yn annog teithwyr i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.
Mae'r streiciau yn cyd-fynd â gwaharddiad ar weithio oriau ychwanegol gan aelodau undeb Aslef - o ddydd Iau i ddydd Sadwrn ac am 48 awr o ddydd Llun nesaf.
Dywedodd Steve Austin, rheolwr rhanbarthol undeb Aslef yng Nghymru a'r de orllewin nad yw "gyrwyr trenau wedi cael codiad cyflog mewn hanner degawd" ac er bod yr anghydfod wedi cychwyn bron i ddwy flynedd yn ôl "maen nhw'n dal i bleidleisio yn gadarn dros streicio".
Mae'n bosib y bydd y gweithredu yn cael effaith hefyd ar amserlenni y diwrnod ar ôl y streic wrth i drenau gychwyn yn hwyrach.
Fe fydd streiciau ddydd Llun yn effeithio ar wasanaethau fel y c2c a'r Gatwick Express.
Yn ôl llefarydd o adran drafnidiaeth Llywodraeth y DU, "Aslef yw'r unig undeb rheilffordd sydd yn dal i streicio ac mae anghydfodau eraill, gydag undebau gan gynnwys yr RMT wedi'u datrys".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Chwefror