Codi pris triniaeth ewinedd i staff gael cyflog tecach

  • Cyhoeddwyd
Trin ewinedd

Faint fyddech chi'n hapus i dalu am wneud eich ewinedd?

Bydd y pris yn uwch o ddydd Llun ymlaen wrth i'r sector ddod at ei gilydd i geisio taclo costau cynyddol.

Mae mwy na 5,000 o dechnegwyr ewinedd ledled y DU yn codi eu prisiau ar y cyd ar yr hyn sy'n cael ei alw'n Ddiwrnod Cenedlaethol Cynyddu Prisiau Ewinedd.

Sefydliad The Nail Tech Org sydd y tu ôl i'r ymgyrch, ar ôl i'w gwaith ymchwil nhw ddangos bod rhai o'u haelodau ond yn gwneud elw o thua £7 yr awr, sy'n is na'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Amy Guy Nails
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o'r dyluniadau mwy creadigol yn gallu cymryd dwy neu dair awr i'w cwblhau

Fel sawl diwydiant, mae'r sector trin ewinedd yn wynebu costau uwch am dechnoleg a chynnyrch - a'r unig ateb, yn ôl y mudiad, yw codi mwy ar gwsmeriaid.

Amy Guy, o Lerpwl, sylfaenydd Nail Tech Org, benderfynodd sefydlu'r ymgyrch a chreu diwrnod cenedlaethol i bawb godi eu prisiau'r un pryd.

Meddai: "O'n i'n gobeithio byddai pawb yn teimlo'r gefnogaeth yna o'u cwmpas wrth wneud hyn a gobeithio y byddwn ni'n gweld y newid yn y diwydiant dwi'n meddwl ein bod ni wir angen ei weld."

Ond dywedodd nad yw pob busnes yn cymryd rhan yn y cynllun.

'Mae'n anodd ar adegau'

Mae Ffion Mai Jones yn un o'r technegwyr sy'n aelod o Nail Tech Org, a fydd yn codi ei phrisiau ddydd Llun.

Er bod ei chostau hi ychydig yn is, a hithau'n cynnal ei busnes o adref, mae'n dal yn her.

Ar draws y diwydiant, mae ymchwil gan sefydliad Nail Tech Org wedi canfod bod elw'r rhan fwyaf o'u haelodau'n sylweddol is na'r Cyflog Byw Cenedlaethol, sy'n £11.44 yr awr erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Mai Jones wedi trafod y cynnydd i'r pris sydd ar fin dod i rym

Dywedodd Ffion: "Mae'n anodd ar adegau i redeg busnes, ond eto pan 'da chi'n cael y cleientiaid i mewn ac yn llwyddo mae o'n werth y byd.

"I gynnal busnes sy'n gynaliadwy y dyddiau yma, mae'n rhaid codi prisau. Wrth weithio'n agos efo'r Nail Tech Org, mae o'n rhywbeth sy'n bosib i wneud efo hyder efo nail techs ledled y byd dweud y gwir."

"Dwi wedi trafod y newid efo'r cwsmeriaid ers peth amser a dweud y gwir, teimlo bod o ond yn deg i'w paratoi nhw at beth sydd i ddod a'r rhesymau tu ôl iddo.

"Mae o'n llawer mwy na jyst codi pris."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leah Watkins am barhau i gael trin ei hewinedd, ond falle ddim mor aml yn y dyfodol

Mae Leah Watkins yn mynd at Ffion i gael gwneud ei hewinedd yn rheolaidd ac yn gefnogol o'r newid.

Meddai: "Dwi'n licio dod yma - dwi'n licio gwneud rhywbeth bach i fi fy hun.

"Dwi'n gweithio, dwi'n fam i dri o blant, ma' bywyd 'chydig bach yn boncyrs a hectic - felly mae hwn yn gyfle i ymlacio.

"Dwi'n deall sefyllfa lot o bobl efo prisiau'n codi - mae pob dim yn codi dyddiau yma.

"Ella fydda i ddim yn gallu fforddio dod yma cweit mor aml â be' o'n i o'r blaen ond fydda i'n dal i ddod yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwsmeriaid wedi ymateb yn dda i'r ffaith bod prisiau'n codi, medd Ffion

Yn ôl Ffion, mae'r rhan fwyaf o'i chleientiaid yn cefnogi'r cynnydd ac mae hi'n teimlo'n fwy hyderus am y dyfodol o'i herwydd.

Meddai: "I'r cwsmeriaid ddeall be ydy'r cyfnewid teg o'r driniaeth maen nhw'n ei gael, y safon maen nhw'n ei dderbyn, y cynnyrch dwi'n ei ddefnyddio.

"Maen nhw'n bositif iawn ar y cyfan, a dweud y gwir."

Pynciau cysylltiedig