Traddodiad teuluol yn ysbrydoli cynnyrch croen newydd

  • Cyhoeddwyd
Lisa CurzonFfynhonnell y llun, Lisa Curzon

Mae Lisa Curzon o Abertawe yn un o nifer yn y diwydiant harddwch sydd wedi colli rhan helaeth o'i hincwm dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i'w salon aeliau orfod aros ynghau yn ystod y cyfnodau clo.

Ond nid yw hynny wedi ei hatal rhag parhau â'i breuddwyd o ddechrau busnes creu cynnyrch i'r croen, sydd wedi eu hysbrydoli gan fferm ei theulu yn yr Eidal.

"Nôl yn 2019 o'dd croen fi yn horrendous, gydag acne rili gwael. Nes i drio loads o wahanol products a dim byd yn gweithio, ac yn y diwedd, o'dd rhaid i fi fynd ar feddyginiaeth.

Ffynhonnell y llun, Lisa Curzon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd croen Lisa wedi mynd yn wael iawn, ac roedd rhaid iddi gymryd cyffuriau i'w glirio

"Unwaith 'nath yr acne glirio lan, o'n i jest eisiau cadw croen fi'n rili lân, cadw e'n iach. Dyna pryd nes i edrych mewn i products wyneb.

"Nes i sylweddoli, hwn yw beth fi eisiau 'neud - dechrau cwmni cynnyrch croen. Ond ble fi'n dechrau?

"Nes i edrych mewn i beth sy'n dda i'r croen, y cynhwysion a'r fformiwlâu, a gweld bod Mam-gu a Tad-cu - Nonna a Nonno - arfer tyfu lot o'r pethau yma o'n i'n eu gweld ar-lein sydd yn dda i'r croen - fel ffigys, bricyll, olew olewydd - ar eu fferm yn Umbria, Yr Eidal.

Y ffordd Eidalaidd o fyw

"Bydde Nonna yn gwneud sebon gyda rhosmari, ac yn rhoi lafant mewn pethau. Os oedd bola tost 'da fi, bydde hi'n pigo lemon oddi ar un o'u coed nhw a'i roi e mewn dŵr twym a bach o siwgr a dweud bydde hynny'n sortio fi mas!

"Bydde hi'n defnyddio olew olewydd, yn amlwg i goginio, ond hefyd ar ei chroen, os oedd ganddi groen sych, i'w soothio. A'r bwyd... y peth gorau yw bwyta pethau mor ffres, yn syth o'r goeden.

Ffynhonnell y llun, Lisa Curzon
Disgrifiad o’r llun,

Olinda oedd enw mam-gu, neu Nonna, Lisa

"Wrth weld fy mam-gu a thad-cu yn tyfu eu cynnyrch eu hun, sylweddolais ei fod yn bwysig ein bod ni'n ystyried nid yn unig yr hyn rydym yn rhoi yn ein cyrff ond ar ein cyrff hefyd.

"Mae Nonno a Nonna wedi marw nawr, ac roedd rhaid i Dad gau'r fferm lawr a chael gwared ar yr anifeiliaid, ond mae'r coed olewydd dal yna, a'r coed bricyll. Nes i feddwl bydde fe'n anhygoel i greu rhyw fath o gynnyrch sy'n cynnwys y cynhwysion yma.

"Roedd Dad - Alvaro - wedi symud o'r Eidal pan oedd e tua 17 oed, ac wedi symud i Abertawe i fod yn pot washer. Mae e'n 71 nawr ac fe symudodd lan yn y diwydiant arlwyo ac roedd e'n berchen ar lawer o fwytai dros y blynyddoedd yn ardal Abertawe.

"Mae fy nhreftadaeth Eidalaidd yn werthfawr iawn i mi ac roedd sicrhau fy mod yn cynnwys rhan ohono yn fy nghynnyrch yn rhywbeth a oedd yn bwysig iawn i mi.

"Y ffordd syml o fyw oedd yn bwysig iddyn nhw, yn enwedig fy nhad-cu. Ei enw oedd Settimio - fe oedd y seithfed plentyn, dyna pam 'nathon nhw enwi fe yn hynny - a dyna pam nes i enwi'r cwmni yn Sette.

Ffynhonnell y llun, Lisa Curzon
Disgrifiad o’r llun,

Lisa a'i brawd a'i chefnder, Alex a Federico, gyda'i thad, Alvaro, a'i thad-cu, Settimio

Y cynhwysion gorau i gael croen da

"Nes i gysylltu â gwneuthurwr yn y wlad yma. O'n i'n gwybod beth o'n i eisiau, ond nhw oedd yn gwneud y fformiwla.

"Yn y facewash mae ffigys a bricyll ynddo fe. Mae ffigys yn hydrating, yn helpu tone y croen - os oes pigmentation 'da ti, neu bach yn goch, mae'n helpu i soothio fe.

"Mae bricyll a ffigys yn ffynhonnell da o fitamin A, C ac E - mae'n gwneud y croen yn llachar ac edrych yn iach.

"Dwi wedi cael adborth yn barod - mae gen i gleientiaid gyda rosacea ac maen nhw wedi dweud ei fod e wedi helpu gyda hwnna. O'n i'n hapus gyda hwnna.

Ffynhonnell y llun, Lisa Curzon
Disgrifiad o’r llun,

Plant Lisa, Bella a Matteo, yn helpu i hel bricyll ar y fferm yn Umbria

'Eisiau addysgu' am y croen

"Dwi'n ffeindio bod pobl 25 oed a hŷn yn edrych ar ôl croen nhw, ond ddim yn gwybod lot am beth ddylia nhw roi. Dwi eisiau addysgu pobl.

"Fi yng nghanol gwneud diploma mewn formulation, achos o'n i eisiau gwybod yn union pam bod pethau'n gorfod cael eu cymysgu fel maen nhw. 'Sai byth am wneud y pethau eu hunain, 'sai'n gemegydd, ond fi eisiau gwybod pam bod rhaid rhoi 1% o preservative a 2% o rywbeth arall, achos mae'r pethau yma am fynd ar groen pobl.

Ffynhonnell y llun, Lisa Curzon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa eisiau sicrhau fod ei chroen yn para' yn lân a chlir, ac eisiau helpu eraill hefyd

"Does dim rhaid i ti roi yr holl gynnyrch gwahanol yma ar dy wyneb. Rhaid jest ei gadw e'n rili syml er mwyn cadw'r croen i edrych yn iach a ffres.

"Ti angen ei gadw'n syml, gwneud yn siŵr fod y cynhwysion cywir yn y cynnyrch ac amdani. Dyna beth fi wedi darganfod!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig