Teyrnged i ddyn 'caredig ac annwyl' a fu farw ar yr A40

  • Cyhoeddwyd
Owen LewisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Owen Lewis ei fod yn berson "caredig, cwrtais ac annwyl oedd wastad yn hapus i helpu unrhyw un"

Mae marwolaeth dyn 36 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr yn gynnar ddydd Llun y Pasg yn "cael ei theimlo trwy'r gymuned", yn ôl ei deulu.

Roedd Owen Lewis yn cerdded ar yr A40 ger Cae Sioe Caerfyrddin pan fu mewn gwrthdrawiad â char tua 04:45 ar 1 Ebrill.

"Roedd Owen yn fab, brawd, brawd-yng-nghyfraith, ewythr a chyfaill caredig, cwrtais ac annwyl oedd wastad yn hapus i helpu unrhyw un," dywedodd ei deulu mewn datganiad.

"Roedd yn mwynhau ei waith bob dydd ar y fferm deuluol a gyda busnes contractio amaethyddol y teulu.

'Yn ein calonnau am byth'

"Mae marwolaeth drasig a chynamserol Owen wedi cael ei theimlo trwy'r gymuned.

"Fe fydd yn cael ei golli'n fawr ac fe fydd yn ein calonnau am byth."

Bu'n rhaid cau'r ffordd yn gyfan gwbl rhwng Caerfyrddin a Sanclêr am dros saith awr ddydd Llun wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio am wybodaeth a lluniau dash cam.

Pynciau cysylltiedig