Apêl heddlu wedi i ddyn gael ei ladd ger Y Bala
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur toc wedi 11:00 ger Capel Celyn, Y Bala
Dywed Heddlu'r Gogledd bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ddydd Sadwrn ar ffordd yr A4212.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur toc wedi 11:00 ger Capel Celyn, Y Bala.
Mae teulu'r dyn yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac mae'r Crwner wedi'i hysbysu.
Mae plismyn yn annog unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam i gysylltu â nhw.

Ddydd Sadwrn bu'r ffordd ar gau am oriau
Ddydd Sadwrn roedd yna rybudd i yrwyr osgoi ffordd yr A4212 ar hyd Llyn Celyn rhwng cyffyrdd B4391 a B4501 wrth i'r ffordd orfod cau am gryn amser.