'Angen sefydlu undeb myfyrwyr annibynnol i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Deio Owen: 'Angen sefydlu undeb myfyrwyr annibynnol i Gymru'

Mae darpar lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi dweud fod angen edrych ar sefydlu undeb myfyrwyr annibynnol i Gymru - y tu allan i strwythur presennol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr y Deyrnas Unedig.

Yn yr haf fe fydd fydd Deio Owen yn camu i'r rôl - y Cymro Cymraeg cyntaf i fod yn y swydd ers 29 o flynyddoedd.

Ar hyn o bryd mae UCMC yn rhan o UCM y DU - yr undeb sy'n cynrychioli myfyrwyr prifysgolion y Deyrnas Unedig.

Mae UCM y DU wedi cael cais am ymateb.

"Da ni 'di dechrau meddwl yng Nghaerdydd pam nad yw Cymru yn sefydlu UCMC ei hun a bo' ni ddim yn ddibynnol ar NUS UK," meddai Deio Owen wrth siarad ar Newyddion S4C.

"Dwi'n meddwl mai'r syniad os ydyn ni'n torri'n rhydd fyddwn ni ddim yn cydweithio -fe fyddai'r cydweithio yn dal i ddigwydd ond o ran lle mae'r pŵer yn eistedd, lle mae'r dewisiadau yn cael ei wneud.

"Mae addysg wedi ei ddatganoli a'r syniad ydy fel undeb cenedlaethol myfyrwyr ein prif sylw wrth gwrs ydi addysg ac felly fe fyddai gyda ni'r gallu wedyn i benderfynu ar ein systemau a'n strwythurau ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mawrth fe basiodd Undeb Myfyrwyr Caerdydd fesur 'Dyfodol Gwell i Fyfyrwyr Cymru'

Ar hyn o bryd, Deio Owen yw Is-Lywydd Iaith Diwylliant Cymru yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Fis diwethaf fe basiodd Undeb Myfyrwyr Caerdydd fesur 'Dyfodol Gwell i Fyfyrwyr Cymru'.

Mae'r cynnig yn datgan y bydd yr undeb yn "cefnogi Cymru annibynnol, adolygu sut mae Cymru'n cael ei chynrychioli gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a lobïo'r brifysgol i roi'r gorau i'w hymgysylltiad â'r system Anrhydeddau Cenedlaethol".

Mae'r undeb yn swyddogol felly yn galw ar y brifysgol i beidio ag enwebu staff ar gyfer anrhydeddau'r Ymerodraeth Brydeinig fel MBE ac OBE gan nad ydyn nhw am "gydnabod hanes tywyll yr Ymerodraeth".

"Pan ni'n sbïo ar y newid sydd yn ein cymdeithas dyw e ddim yn berthnasol i ni enwebu pobl sy'n cydnabod yr Ymerodraeth Brydeinig a'r holl hanesion sydd ynghlwm â hynny," meddai Mr Owen.

"Mae myfyrwyr yn gofyn beth hoffwn ni weld yn ein cymdeithas ac oes 'na le i ddathlu'r Ymerodraeth Brydeinig.

"O ran symud hynny'n genedlaethol, mae hynny'n benderfyniad i'n cynhadledd ni'r flwyddyn nesa."

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd wedi cael cais ymateb.