Record batio arall i Sam Northeast o Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Sam Northeast yn gosod record am y sgôr uchaf i'w chofnodi yn Lords, sef 335
Mae'r tymor criced wedi dechrau a Morgannwg wedi agor y chwarae yn Lords yn erbyn Middlesex gyda sgôr enfawr o 630 am 3.
Ond yr hyn sy'n fwy arwyddocaol ydi fod Sam Northeast wedi torri record batio arall.
Northeast yw sgoriwr uchaf Morgannwg gan daro 410 yn 2022 ond y tro hwn mae wedi gosod record am y sgôr uchaf i'w chofnodi yn Lords, sef 335.
Hon hefyd yw'r sgôr uchaf gan fatiwr yn y bencampwriaeth yn ystod mis Ebrill.
Wynebodd 412 pelen gan daro 36 pedwar a phedwar chwech.
Gosodwyd nod uchel i Middlesex felly, a pherfformiad Morgannwg yn argoeli'n dda am y tymor newydd.
Morgannwg 620-3 (139 pelawd)