Disgyblion yn estyn llaw i helpu plant mewn ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Disgyblion ysgol gynradd yn helpu gwella sesiynau dialysis cleifion ifanc Ysbyty Arch Noa

Mae cynllun rhwng ysgol gynradd ac ysbyty yng Nghaerdydd "yn gwneud bywydau plant yn well" wrth dderbyn triniaeth feddygol.

Fe benderfynodd plant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Mynydd Bychan eu bod am greu adnoddau addysg a gemau i blant yn Ysbyty Arch Noa yn y brifddinas, ac yn ôl athrawon "mae'n rhoi boddhad mawr i bawb".

Mae rhai plant yn derbyn dialysis, sy'n golygu cyfnodau hir yn yr ysbyty sawl gwaith yr wythnos, yn aml heb symud.

Un o'r rheiny ydy Aleshagul, sy'n 8 oed, sy'n dweud bod y gemau mae plant Mynydd Bychan wedi eu creu "yn lot o hwyl ac yn addysgiadol iawn... ac mae'n gwneud i'r amser dwi'n cael dialysis fynd yn fwy cyflym".

Ond mae 'na bryderon nad oes digon o adnoddau addysg i blant sy'n derbyn triniaeth, sy'n aml yn "hir a thrawmatig".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aleshagul, sy'n 8 oed, yn cael dialysis yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd

Isabel Thomas sy'n arwain y gwaith o ddysgu'r plant yn yr ysbyty.

Dywedodd: "Mae rhai plant yn dod yma i gael dialysis felly ma' nhw yma rhyw dridiau'r wythnos... maen nhw'n sesiynau hir iawn a dydyn nhw ddim yn gallu symud o'r gwely.

"Mae'r dyddiau'n gallu bod mor hir a thrawmatig i'r plant felly mae'r sesiynau yma'n torri'r diwrnod fyny. Rydyn ni'n mynd yno i drio gwneud iddyn nhw deimlo'n well, ac os allwn ni ddysgu pethau iddyn nhw, mae hynny hyd yn oed yn well.

"Ac mae'r gemau gan Mynydd Bychan yn golygu bod y plant yn dysgu pethau, heb iddyn nhw sylweddoli hynny a dweud y gwir."

'Isho helpu'

Plant blwyddyn 5 y Mynydd Bychan sydd wedi bod wrthi'n cynllunio gemau ac adnoddau.

Dywedodd eu hathro, Iolo Williams: "O'dd o'n deillio o waith oeddan ni'n gwneud yn ystod y tymor cyntaf ar y Gwasanaeth Iechyd.

"Gan bo' ni mor agos at yr ysbyty fan hyn, o'dd y plant wir isho dysgu am y Gwasanaeth Iechyd a ma' gynnon ni lot o rieni hefyd sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd a nath y plant ddeud eu bod nhw isho gwneud wbath i helpu hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alara'n dweud ei bod hi'n hapus ei bod hi'n helpu plant eraill

Aeth y plant ati i feddwl am syniadau, ac erbyn hyn mae'r disgyblion yn paratoi pob math o adnoddau - cwisiau, straeon a gemau.

Dywedodd Alara: "Dwi wedi neud lot ar Scratch... mae'n ffordd o codio a creu gêm, fel dwi wedi creu maze game a dwi wedi creu gêm arall fel fi ydi draig Cymru a ti'n gorfod rhedeg i ffwrdd o Dewi Sant.

"Dwi'n hoffi creu e, mae'n rili hwyl. Dwi'n credu bydd y gêm yn gwneud y plant i teimlo'n hapus a mae'n gwneud fi'n hapus hefyd."

Mae'n egluro bod y deunydd ar gael yn ddigidol i'r plant yn yr ysbyty gan fod hynny'n "rhai pobl sâl ddim yn gallu sefyll lan a mynd i nôl pethau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari wedi ffilmio ei hun yn darllen y llyfr 'Bob o Chwith' i'r plant yn yr ysbyty

Mae plant eraill wedi recordio eu hunain yn darllen stori i'r plant, neu'n creu fideos.

Dywedodd Mari: "Mae'n gwneud i fi teimlo'n ddiolchgar achos fi'n gallu helpu pobl a mae hefyd yn gwneud i fi teimlo'n rili hapus."

Mae Cai yn mwynhau paratoi cwisiau: "Fi'n hapus bo ni'n gallu helpu plant sâl a ma nhw'n hapus... cafon ni fideo o merch yn trio un o cwisiau ni ac o'dd hi'n rili hoffi fe.

"Mae'n 'neud i pawb fod yn hafal ac yn helpu pawb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plant yn paratoi'r adnoddau'n ddwyieithog

Yn ôl disgybl arall, Mali, mae'n bwysig paratoi'r adnoddau'n ddwyieithog: "Yn yr ysbyty ma' rhai plant yn siarad Cymraeg a rhai yn siarad Saesneg felly naethon ni gwneud un cwis yn Gymraeg a un Saesneg iddyn nhw cael blas o'r dau.

"Fi'n meddwl bo' hyn yn gwneud nhw'n hapus oherwydd ma' nhw hefo rhywbeth i wneud tra maen nhw yna achos ni ddim yn gwybod falle bod nhw yna dros y nadolig neu hoff holidays nhw."

'Plant wir yn mwynhau'

Dywedodd eu hathro Iolo Williams bod y "brwdfrydedd wedi bod yn anhygoel", a'r plant "wir yn mwynhau".

"Be' sy'n bwysig ydi cyfuno hyn efo sgiliau technoleg, sgiliau iaith, sgiliau darllen... o'ddan nhw'n gorfod paratoi sgript a sicrhau bod eu cwisys nhw'n gywir.

"Mae gweld y boddhad mae'r plant yn y dosbarth wedi ei gael o allu teimlo bo' nhw'n gallu gwneud cyfraniad yn werth ei weld a mae'n brosiect sy'n rhoi boddhad mawr i bawb sy'n rhan ohono fo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aleshagul yn dweud bod yr adnoddau yn "lot o hwyl"

Mae plant Ysbyty Arch Noa "wrth eu boddau" gyda'r deunydd, meddai Isabel Thomas, "ac ma'r ffaith mai plant eraill sy'n eu creu nhw yn golygu bod ganddyn nhw gyswllt efo plant".

Dywedodd na fyddai ganddi amser ei hun i greu deunydd, ac felly bod "pawb yn elwa o'r cynllun yma".

"Dyma pam dwi am geisio trefnu i'r plant ysgol gyfarfod Aleshagul er mwyn iddyn nhw weld sut mae eu gwaith nhw yn helpu plentyn eraill, ac yn gwneud bywyd plentyn arall yn well."

Angen mwy o help

Cafodd pryderon eu codi'n ddiweddar nad oes digon o bwyslais ar addysg i blant mewn ysbytai.

Dywedodd Ms Thomas: "Mae'r rhan fwyaf o blant i fod i gael awr o addysg yn yr ysbyty bob dydd ond maen nhw'n lwcus i gael tair awr yr wythnos ar hyn o bryd achos dim ond dau ohonon ni sy'n gweithio yma ac rydyn ni angen mwy o staff i gyrraedd y targed.

"Rydyn ni'n gorfod dysgu popeth o'r cyfnod sylfaen i fyny i TGAU. Mae'n amhosib i ni gael yr holl wybodaeth sydd angen."

Ym mis Tachwedd, aeth y Comisiynydd Plant ati i gomisiynu adroddiad oedd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio cynnig rhagor o gyllid er mwyn talu am staff.

Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol ar ddarpariaeth i blant sy'n derbyn addysg tu allan i'r ysgol, "gan gynnwys plant sydd yn methu mynd i'r ysgol oherwydd eu bod yn glaf mewn ysbyty".

Pynciau cysylltiedig