Galw am wella darpariaeth addysg i blant mewn ysbytai

ysbyty plant CaerdyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Tair awr yr wythnos o addysg sy'n gallu cael ei cynnig i bob plentyn yn yr ysbyty plant yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

"Mae’n gallu bod yn drawmatig yn yr ysbyty… mae’n rili pwysig bo' nhw’n teimlo’n hapus a llwyddiannus."

Mae Sarah James yn athrawes yn yr ysbyty plant yng Nghaerdydd, ac yn darparu addysg i blant sydd yn yr ysbyty am gyfnod hir.

Mae’n gweithio gyda phlant o bedair oed hyd at bobl ifanc sy’n gwneud eu TGAU yn 16 oed.

Yn ôl adroddiad newydd, dydy rhai plant yng Nghymru ddim yn cael y cynnig o wersi hyd yn oed os ydyn nhw’n ddigon iach ac yn awyddus i ddysgu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gan bob plentyn, beth bynnag yw’r amgylchiadau, hawl i addysg lawn.

'Ceisio cadw fe’n hwyl'

"Dyw e ddim fel gwaith yn yr ysgol. 'Da ni’n ceisio cadw fe'n hwyl so mae plant yn hapus ac yn teimlo'n dda," meddai Sarah, sy'n un o ddwy athrawes sy'n gweithio yn yr ysbyty plant fel rhan o dîm Coed y Deryn Cyngor Caerdydd.

Dechreuodd yn ei swydd ym mis Medi, ac mae'n gweld y rôl yn gyfle "i wneud gwahaniaeth".

"Mae’r dydd yn hir yn yr ysbyty ac mae plant yn haeddu rhywun i fynd i mewn i ddweud 'Helo, beth chi moyn gwneud?'."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gan blant yr hawl i gael addysg... ond ar hyn o bryd mae'n amhosib," meddai Sarah James

Maen nhw'n gweithio gyda thua 15 o blant - rhai wedi cael llawdriniaeth, rhai yn dod i'r ysbyty yn rheolaidd am ddialysis ac eraill yn cael triniaeth am ganser.

Ar ôl trafod gyda'r meddygon, rhieni, y claf ac weithiau'r ysgol, maen nhw'n cynllunio gwersi sy'n addas ar gyfer anghenion y plentyn a chyflwr eu hiechyd.

Tair awr yr wythnos maen nhw'n gallu cynnig i bob plentyn, ond hoffen nhw gynnig mwy.

"Mae gan blant yr hawl i gael addysg... ond ar hyn o bryd mae'n amhosib," meddai Sarah.

Galw am fwy o gysondeb

Mae adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru yn galw am fwy o gysondeb yn y ddarpariaeth i blant ar draws Cymru, am fod gan gynghorau drefniadau gwahanol wrth dalu am addysg yn yr ysbyty neu leoliadau iechyd eraill.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i osod disgwyliadau mwy eglur ar gynghorau ynglŷn â’r hyn maen nhw'n ei ddarparu, ac yn dweud y dylai hynny ddechrau gyda'r disgwyliad bod addysg llawn amser ar gael os yw hynny o fudd i'r plentyn.

Mae'n dweud hefyd bod y ddarpariaeth i blant yn gryfach yn Lloegr.

Dywedodd y comisiynydd bod plant a'u teuluoedd wedi dweud wrthyn nhw eu bod am gael mwy o ddarpariaeth.

"Roedd e’n rhoi rhywbeth i fi edrych 'mlaen ato pan oeddwn i’n sâl yn yr ysbyty," meddai un plentyn.

Dywedodd plentyn arall fod dal i fyny gyda gwaith yn yr ysbyty yn lleihau’r straen a phryder o fynd yn ôl i’r ysgol.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol ar ddarpariaeth i blant sy’n derbyn addysg tu allan i’r ysgol, "gan gynnwys plant sydd yn methu mynd i’r ysgol oherwydd eu bod yn glaf mewn ysbyty".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lewis Lloyd o Swyddfa’r Comisiynydd Plant fod y system bresennol yn annheg ar blant a'u teuluoedd

"Mae'n rhaid i'r system i weithio i blant ac i deuluoedd," meddai Lewis Lloyd o Swyddfa'r Comisiynydd Plant.

"Ddylen nhw ddim gorfod meddwl am eu hawl nhw i addysg pan maen nhw’n derbyn y driniaeth 'ma."

Mewn rhai achosion, mae ysgolion yn derbyn bil am yr addysg sydd wedi cael ei ddarparu yn yr ysbyty, a dywedodd un rhiant bod yr ysgol wedi sôn wrthi eu bod yn gorfod ysgwyddo’r gost.

"Dyw hynny ddim yn deg i'r fam hynny," meddai Lewis Lloyd.

"Roedd hi wedi teimlo’n embarrassed a theimlo fel mai’r peth anghywir oedd i dderbyn yr addysg hynny.

"Hawl dynol yw addysg i blant, a ddylen ni ddim cael system lle mae teuluoedd yn teimlo fel 'na."

Pynciau Cysylltiedig