Teyrnged i ddyn 'hyfryd' a fu farw ar ffordd ger Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Neil VaughanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neil Vaughan yn "angerddol am gerddoriaeth, antur a theithio", dywedodd ei deulu mewn datganiad

Mae Heddlu Gogledd wedi cadarnhau enw dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd dros y penwythnos.

Bu farw Neil Vaughan, oedd yn 66 ac o Gaer, wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic modur toc wedi 11:00 ddydd Sadwrn ar yr A4212 ger Capel Celyn, Y Bala.

Dywedodd ei deulu bod y tad i ddau yn ddyn "hyfryd" oedd yn "angerddol am gerddoriaeth, antur a theithio... a fydd yn cael ei golli gan bawb oedd yn ei nabod a'i garu".

Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth a lluniau dashcam ac mae manylion yr achos wedi eu rhoi i'r Crwner.

Pynciau cysylltiedig