Dyn ifanc o Sir Gâr wedi ei anafu'n ddifrifol yn Sbaen

  • Cyhoeddwyd
MagalufFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Magaluf yn denu miloedd o dwristiaid Prydeinig bob blwyddyn

Mae'r awdurdodau yn Sbaen yn ymchwilio ar ôl i ddyn 28 oed o Gymru gael ei anafu'n ddifrifol yn Mallorca dros y penwythnos.

Mae heddlu cenedlaethol Sbaen ar yr ynys yn ymchwilio i'r digwyddiad. Dyw hi ddim yn glir eto union natur y digwyddiad nac anafiadau'r dyn.

Mae'r BBC yn deall mai Ifor Jones, o Lanllwni yn Sir Gaerfyrddin, yw'r dyn sydd wedi ei anafu, a'i fod ar barti stag yn Magaluf dros y penwythnos.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ond dyw ei gyflwr ddim yn glir hyd yma.

Mae'r Swyddfa Dramor yn dweud eu bod yn "rhoi cymorth i deulu dyn o Brydain a gafodd ei gludo i'r ysbyty yn Sbaen", a'u bod "mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau'n lleol".

Pynciau cysylltiedig