Carcharu dyn o Wynedd gymrodd allweddi i dreisio menyw fregus

  • Cyhoeddwyd
Gareth Dilwyn DruceFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Dilwyn Druce wedi cael ei garcharu am dreisio un ddynes ac ymosod yn rhywiol ar ddynes arall

Mae dyn o Wynedd wedi cael dedfryd o garchar am dreisio dynes fregus ar ôl ei helpu i gyrraedd adref ar ôl noson allan.

Fe wnaeth lluniau CCTV ddangos bod Gareth Dilwyn Druce, 33 o Flaenau Ffestiniog, wedi bod yn gwylio a dilyn merched oedd ar eu pen eu hunain yn yr oriau cyn yr ymosodiad ym Mae Colwyn yn 2022.

Wedi i reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ei gael yn euog o dreisio, cafodd ddedfryd o 12 mlynedd o garchar, gyda chyfnod estynedig o bedair blynedd ar drwydded fel troseddwr peryglus.

Fe gafodd ddedfryd arall o wyth mis o garchar hefyd, ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ddynes arall yn 2021 - deufis cyn yr achos o dreisio.

Bydd ei enw'n cael ei roi ar y Gofrestr Troseddau Rhyw, ac mae wedi derbyn Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.

Cymryd goriadau

Clywodd yr achos, a barodd am saith diwrnod, bod y dioddefwr wedi bod yn yfed, ac wedi cael ei tharo'n wael ac yn cael trafferth cerdded.

Roedd dyn arall yr oedd y ddynes wedi ei gyfarfod yn gynharach y noson honno yn ei helpu i gerdded adref.

Clywodd y llys bod Druce wedi gweld y ddau a manteisio ar y sefyllfa, gan gynnig i helpu hefyd. Wrth iddyn nhw fynd i'w heiddo, fe roddodd ei goriadau yn ei boced.

Mae lluniau CCTV ger yr adeilad yn dangos y ddau ddyn yn gadael gyda'i gilydd funudau ar ôl cyrraedd gyda'r ddynes - a'r diffynnydd yn dychwelyd maes o law ar ei ben ei hun.

Disgrifiad,

Cafodd Gareth Dilwyn Druce ei weld yn gwylio a dilyn merched oedd ar eu pen eu hunain ym Mae Colwyn

Doedd Druce ddim yn ei 'nabod, na'r ddynes arall yr oedd eisoes wedi ymosod arni.

"Does dim modd awgrymu y byddai'r dioddefwr wedi bod mewn unrhyw gyflwr i ganiatáu gweithred rywiol," meddai Ceri Ellis-Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron.

"Fe dargedodd y diffynnydd yn fwriadol - ddioddefwr oedd yn fregus - a thrwy gymryd arno ei fod yn ei helpu, fe lwyddodd i fynd i'w chartref."

Gan groesawu'r dyfarniadau a'r dedfrydau, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Marc Jones bod y ddwy ddynes "wedi amlygu gwytnwch a nerth trwy'r broses ac rwy'n gobeithio yn dilyn dedfrydau heddiw y byddan nhw'n gallu symud ymlaen yn eu bywydau".

Pynciau cysylltiedig