'Y pwysau i anfon lluniau noeth'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n gallu bod mor upfront â rhywun yn dweud 'send pics' - neu weithiau dyw nhw ddim yn gofyn, maen nhw jest yn anfon lluniau o'u hunain ac yn disgwyl pethau nôl. Mae hwnna'n lot o bwysau - ti'n derbyn rhywbeth ac maen nhw wedi rhoi cymaint o'u hunain allan yna, ti angen rhoi rhywbeth nôl."
Wrth i bobl ifanc droi'n gynyddol at eu ffonau symudol i gymdeithasu mae anfon lluniau noeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'r pwysau i wneud hynny wedi datblygu yn fwy cyffredin.
Mae rhannu lluniau noeth o blant dan 16 oed yn erbyn y gyfraith ac yn gallu achosi pryder a straen wrth i'r lluniau gael eu rhannu a'u cyhoeddi.
Mae un Gymraes 16 mlwydd oed wedi rhannu ei stori gyda Cymru Fyw o sut wnaeth hi ymdopi pan gychwynnodd dyn 18 oed anfon lluniau noeth ati pan oedd hi'n 15 oed. Mae hi hefyd yn sôn am pa mor gyffredin yw anfon lluniau noeth ymhlith ei chyfoedion hi.
Un o'r profiadau gwaethaf i fi oedd pan oedd person 18 oed yn anfon lluniau noeth i fi ac oedd e'n hollol ymwybodol bod fi'n 15.
O'n i'n snapio fe (cysylltu dros Snapchat) yn hollol normal fel ffrindiau ac 'nath e gael y syniad anghywir a danfon llun o'i law e o dan ei boxers. O'n i jest yn trio siarad ag e'n normal fel ffrindiau a ddim eisiau dim byd pellach wrtho fe.
'Nes i jest ignorio fe ond 'nath e ddim stopio anfon y lluniau.
Oedd mwy a mwy yn cael ei ddangos ac yn y diwedd o'n i ddim yn siŵr beth i 'neud. Achos oedd e'n hŷn ti'n teimlo rhyw fath o imbalance.
I fi o'n i jest ishe siarad ag e a ddim eisiau unrhyw berthynas rhywiol.
Bydden i'n gweld e mewn partïon ac oedd e'n actio'n hollol normal. O'n i ddim yn siŵr beth o'n i fod i 'neud. Oedd ddim unrhyw gydsyniad rhywiol yna - oedd e jest yn lun unsolicited o'n i ddim wedi gofyn am. 'Nes i jest blocio fe achos o'n i'n 15 ac yn terrified o beth fydde fe'n 'neud.
Ond nawr mae hynny'n normal.
Cymdeithasu
'Oedd hwnna blwyddyn yn ôl a dwi wedi cael cysylltiadau eraill (ers hynny) lle o'n i ddim yn teimlo'n stressed achos mae'n gallu bod yn ffordd iachus o gymdeithasu efo pobl chi'n 'nabod yn dda. Os mae'n gariad i chi a chi'n 'nabod y person yn rial dda ac yn fodlon rhannu y pethau yna, ti'n gallu deall yr urge i 'neud e achos mae'n gallu bod yn ffordd mor wahanol i gymdeithasu â phartner.
Ond mae'n cael ei gorddefnyddio a'i gamddefnyddio i lefel lle mae mor naturiol i agor Snapchat a gweld llun chi ddim ishe gweld gan fachgen chi ddim yn 'nabod.
Mae unrhyw un sy' oedran fi yn dweud bod nhw unai wedi cael eu gofyn i anfon lluniau neu wedi cael lluniau wedi anfon atyn nhw - yn fwy na unrhyw beth cael lluniau heb ofyn amdanynt sy'n digwydd.
Y prif broblem yw bod ti'n snapio a'r peth nesaf ti'n cael llun oeddet ti ddim wedi gofyn am, ac mae rhyw bwysau wedyn am sut ddylet ti ateb nôl.
Dwi'n ffeindio fod rhan fwya' o bobl sy'n gofyn yn ffrind i ffrind - chi ddim angen gweld nhw y diwrnod wedyn ond 'newch chi redeg mewn i nhw mewn parti rhywbryd. Ti'n sefyll 'na yn gwybod beth maen nhw wedi anfon i ti a beth maen nhw wedi gofyn amdano. Mae'n awkward.
Mae'n bach o sioc i fi siarad efo pobl sy'n iau na fi ac maen nhw'n dweud - 'o'n i'n anfon hwn iddo fe a 'nath e ddim anfon dim byd yn ôl'. Maen nhw'n 15, ddim hyd yn oed yn oedran gyfreithlon.
Preifatrwydd
Os yw e'n rhywun ti'n 'nabod yn eitha' da mae'n gallu bod yn eitha' funny. Ond os ti ddim yn 'nabod y person neu mae rhywun yn adio ti'n randomly ar Snapchat ac wedyn y peth cynta' maen nhw'n anfon i ti yw hwnna mae'n eitha shocking. Dwi'n gadael ffôn fi am bach achos mae'n teimlo fel invasion o privacy.
Dangos y lluniau
Mae'n 'neud i ti feddwl be' fyse' nhw'n gallu 'neud efo lluniau o ti hefyd. Mae 'na nodwedd ar Snapchat lle ti'n gallu rhoi stickers o snaps mae pobl yn anfon ato ti a dwi wedi gweld pobl yn 'neud sticker o lun anweddus o rhywun.
Mae wedi bod yn lot o bwysau o'r blaen, yn enwedig i un o ffrindiau fi oedd mewn perthynas efo'r bachgen 'ma ac oedd hi dan lot o bwysau i anfon lluniau. Oedd hi yn anfon lluniau ac wedyn oedd hi'n teimlo'n stressed amdano fe. Ac wedyn ar ddiwedd y berthynas oedd hi wedi ffeindio mas bod e wedi dangos pob un o'r lluniau i'w ffrindiau fe.
Mae wedi digwydd yn ysgol fi lle mae'r lluniau wedi cael eu anfon i bawb ac mae'r ferch wedi gorfod symud ysgol.
Mae'n rheol cyffredinol i beidio rhoi gwyneb chi yn y llun. Mae bechgyn fel arfer byth efo gwynebau nhw yn y llun. Ond mae mwy hawdd i merched gael gwynebau nhw yn y lluniau. Os mae 'na wyneb ynddo fe, fel arfer gwyneb y merch yw e.
'Blacmel'
Maen nhw'n gallu dweud, 'mae gynno fi luniau ohono ti a dwi'n gallu anfon nhw i unrhyw un, ti'n methu badmoutho fi achos gen i'r lluniau hyn o ti'. Mae'r blacmel yn horibl ond dwi'n meddwl dyna sy'n od am ddanfon lluniau.
Mae lot o ffrindiau fi yn 'neud e mor naturiol ac mae pethau fel blacmel yn achosi cymaint o broblemau.
Mae'n gallu effeithio ar eich hunan-barch. Mae'n gallu achosi lot o straen ar rywun yn enwedig os ti'n anfon llun at rywun ond yn difaru a gwybod bod e allan yna.
Mae'n beth mor normal i genhedlaeth ni ond mae rhieni ddim mor ymwybodol ohono fe achos ni methu dweud.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.