Cigydd Albert Rees: 'Bywyd newydd yn y stondin'

  • Cyhoeddwyd
Shân Cothi gyda Matthew, Chris ac Ann
Disgrifiad o’r llun,

Shân Cothi yn y farchnad gyda Matthew, Chris ac Ann

Mae'r cigydd Chris Rees yn dathlu 50 mlynedd o werthu cig ym marchnad Caerfyrddin eleni â'r busnes, Albert Rees, yn parhau yn y teulu wrth i'w fab Matthew gymryd yr awenau ganddo.

Mae Chris wedi bod yn gigydd ers y 1970au ac yn cynrychioli'r pumed cenhedlaeth o'r teulu i fod ar stondin yn y farchnad yng Nghaerfyrddin.

Bu Shân Cothi draw i gyfarfod y teulu ar gyfer rhaglen Bore Cothi ar Radio Cymru:

Dechrau'r busnes

Roedd Chris yn y siop i adrodd stori cychwyn y busnes teulu: "Oedd fy hen hen famgu y cyntaf i ddod i'r farchnad 'ma yn gwerthu cynnyrch Cymreig sef beth oedd 'da nhw drosto ar y ffarm ond fy nhad oedd y cynta' o'r dynion i ddod i'r farchnad. 'Oedd ei wncwl 'ma hefyd, Tom Williams Abercyfor Hall - oedd e'n butter merchant ac yn gwerthu menyn dros y wlad i gyd."

Fferm fach oedd fferm y teulu rhwng Caerfyrddin a Chydweli ac, yn ôl Chris, roedd dipyn o bopeth ar y fferm - geifr, moch, bustechi ac ati. A dyma oedd ei hen hen famgu yn ei werthu, fel mae'n esbonio: "Excess cynnyrch oedd yn dod mewn i'r farchnad - excess o wyau oedd fy hen hen famgu yn gwerthu.

"Oedd hi'n dod mewn â stondin bach ac oedd hi'n gwerthu beth oedd 'da hi a gwerthu mas yn gynnar iawn."

Ac o'r busnes bach yna mae'r siop wedi mynd o nerth i nerth, meddai Chris, ac wedi datblygu'n sawl busnes dros y blynyddoedd gan gynnwys ciwrio porc cyn newid eto i fod yn gigyddion llawn, gyda holl gynnyrch y busnes yn Gymreig.

Meddai Chris: "Dwi wedi gweithio yn Aberhonddu, Abergwaun, Aberteifi, Caerfyrddin, Doc Penfro ac hefyd Dinbych y Pysgod ond (erbyn hyn) fi yn Gaerfyrddin a Doc Penfro.

Disgrifiad o’r llun,

Chris wrth ei waith yn y farchnad

Cyfrinach teulu

"Oedd hen wncwl 'da fi wedi priodi mewn i'r teulu. Oedd e'n gweithio i Dewhurst y butchers (yn Lloegr). Daeth e lawr yn ystod y rhyfel byd diwethaf. Fan 'na dwi wedi cael fy nghrefft. Yr halltu - mae cyfrinach rhyfeddaf 'da ni fan 'ny, so ni'n pasio hynny, dim ond i waed mae hwnna'n mynd."

Ham Caerfyrddin

Yn ôl Chris, mae rysait y teulu ar gyfer Ham Caerfyrddin wedi parhau ers cenedlaethau. Y chwedl mae e'n adrodd yw fod y Rhufeiniaid wedi dod a setlo yng Nghaerfyrddin, gan ddwyn y rysait a'i gymeryd gyda nhw i'r Eidal a'i ailenwi'n Parma Ham.

Dull traddodiadol Cymreig ydi rysait Ham Caerfyrddin, sef ham wedi'i giwrio yn yr aer, yn debyg i Parma neu Serano Ham. Mae Ham Caerfyrddin wedi cael cydnabyddiaeth yn rhyngwladol.

Meddai Chris: "Y pella' ni wedi danfon Ham Gaerfyrddin yw Singapore. Y gost o'r post mas 'na mwy na'r (cost) ham Caerfyrddin!

"Y Rhufeiniaid oedd y diawled, nhw dwgodd y recipe. Oedden nhw'n dwgud dipyn o bopeth o Gaerfyrddin!

"Oedden nhw wedi setlo yn Gaerfyrddin achos oedd castell mawr 'da nhw ond yr unig beth oedden nhw wedi mynd â ac mae dal gyda nhw yw'r rysait am Ham Gaerfyrddin."

Teulu

Bu Shân Cothi hefyd yn siarad gydag Ann, gwraig Chris. Mae'r ddau'n dathlu carreg filltir eleni: "Cwrddodd Chris a fi dan cloc y farchnad 50 mlynedd yn ôl i mis Awst eleni a natho' ni briodi dwy flynedd ar ôl hynny a dwi wedi bod yma ers hynny.

"Mae Chris yn mwynhau gartre yn halltu a choginio a fi wrth fy modd cwrdd â'r cyhoedd. Ti'n dodi gwên arno, ti'n cwrdd â pob math o bobl, cael eu hanes nhw. Mae mor ddiddorol.

"Mae rhai teuluoedd, ni'n nabod pob cenhedlaeth. Mae'r ddau o ni'n dod o Gaerfyrddin a'n nabod llawer o bobl - mae'n grêt, mae pobl yn dod o bell.

Disgrifiad o’r llun,

Shân Cothi gyda Matthew a Chris

Cenhedlaeth nesaf

"Ac mae'r mab (Matthew) yn dechrau dod mewn i gadw ni fynd."

Mae Matthew'n wyneb cyfarwydd i gynulleidfa S4C ers ei ymddangosiad ar FFIT Cymru pan fu'n un o'r arweinwyr.

Wedi gweithio fel cyfrifydd am 20 mlynedd, mae Matthew yn cynrychioli'r chweched cenhedlaeth i ymuno â'r busnes teulu. Mae ei blant hefyd, Tomos a Hannah, yn helpu ar y stondin pan mae cyfle.  

Meddai Matthew: "Dwi'n mwynhau mas draw - fi'n teimlo bod fi off the leash. Dwi wedi dysgu lot o fan 'na (ei waith fel cyfrifydd) ond dwi'n gallu dod nol â'r sgiliau i'r busnes fan hyn."

Newid byd

Ac mae'r busnes yn mynd i gyfeiriad newydd dan ei arweinyddiaeth gyda Matthew wedi ei enwebu ar restr fer gyda Gŵyl Bwyd a Diod Cymru yn y categori Ser Disglair: "Ni 'di newid dipyn bach dros y flwyddyn diwethaf - ni 'di adio ail uned ym Marchnad Caerfyrddin, agor deli a gwerthu cynnyrch Cymreig a dwi wedi dod i nabod lot o'r cynhyrchwyr wrth fynd rownd y food festivals a'r ffair aeaf."

Mae'r holl newidiadau wedi golygu newid byd i Chris, fel mae'n esbonio: "O'n i'n dod lan i 66, o'n i 'di gweud bod fi'n gweithio nes bod fi'n 67 a ymddeol 'da'n gilydd a falle cau'r siop lawr.

"Ond nawr mae bywyd newydd yn y stondin a'r siop a gobeithio mae'n mynd i gario mlaen. Falle bod y chweched, saithed cenhedlaeth yn barod."

Mae Ann yn gytûn: "Mae Matthew wedi cael ei fagu yn y busnes, mae 'di bod yn helpu ni erioed ac mae'n grêt i ddatblygu eto. Ni wedi neud yr un datblygiad amser 'nath mam a tad Chris ymddeol.

"Ond pobl marchnad y'n ni, wedi bod erioed. Mae'n braf gweld e'n cario mlaen a'n gwerthu cynnyrch Cymreig."

Pynciau cysylltiedig