Cerflun H yn 'stori ffug' gan y digrifwr Joe Lycett
- Cyhoeddwyd
Mae'r digrifwr Joe Lycett wedi cadarnhau mai stori ffug oedd yr awgrym diweddar bod bwriad i osod cerflun o un o aelodau o'r grŵp Steps ym Mro Morgannwg.
Roedd yna ddryswch ynghylch y cynllun honedig i arnhydeddu Ian 'H' Watkins gyda cherflun wyth troedfedd ohono ar stryd fawr y dref ble mae'n byw, Y Bont-faen, gan fod neb wedi clywed am y grŵp oedd yn honni i'w drefnu, Cultural Cowbridge.
Ar ben hynny doedd dim cais wedi ei gyflwyno am ganiatâd i'w godi.
Ymdangosodd y canwr ei hun yn rhifyn gyntaf cyfres ddiweddaraf Lycett ar Channel 4 nos Wener pan gadarnhaodd y digrifwr bod y cynllun ymhlith sawl stori ffug yr oedd wedi eu plannu yn yr wythnosau diwethaf.
Wrth siarad gyda BBC Cymru yn dilyn rhaglen nos Wener, dywedodd H: "Rwy'n ffrindiau mawr gyda Joe ac fe gafodd e'r syniad ei fod eisiau creu newyddion ffug hwylio i dynnu sylw o'r holl newyddion ffug drwg - ac fe weithiodd!
Fe gyfaddefodd bod cadw'r gyfrinach rhag ffrindiau a pherthnasau yn her, er iddo ei rhannu gyda'i fam gan ei rhybuddio i gadw'n dawel.
"Rwy' wedi bod yn osgoi negeseuon testun a dymuniadau gorau, a negeseuon rhyfeddol gan ffrindiau o'r byd pop," dywedodd.
"Mae'n hurt achos yr hyn oedd yn cael ei awgrym oedd cerflun efydd wyth troedfedd ohonof fi! A rwy' wrth fy modd bod pobol wedi meddwl bod yna gyfiawnhad i hynny a bod e'n syniad hyfryd.
"Wnes i ddim meddwl y bydde'r peth mor fawr ag oedd e. Roeddwn i ffwrdd ar wyliau.... ro'n i'n ceisio ymlacio ac fe ffrwydrodd y ffôn - pobol fel Debbie Gibson a Sophie Ellis Bextor ac eraill yn dweud 'da iawn'."
Roedd y straeon ffug eraill yn cynnwys un am glais oedd yn edrych fel y Tywysog Harry, a murlun gan Banksy o'r cymeriad Dorothy o'r ffilm Wizard of Oz.