Gweinidogion Cymru yn peidio mynd i'r llys dros arian HS2

  • Cyhoeddwyd
HS2 trainFfynhonnell y llun, Siemens/ PA
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut allai tren HS2 edrych

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddan nhw'n mynd i'r llys er mwyn ceisio cael gafael ar filiynau o bunnoedd yn ychwanegol i'w wario yn sgil buddsoddiad rheilffyrdd newydd Lloegr.

Llynedd, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, bod camau cyfreithiol yn cael eu hystyried am nad oedd ei lywodraeth yn derbyn cyllid ychwanegol o ganlyniad i wario ar yr HS2 yn Lloegr.

Ond mae prif gynghorwr cyfreithiol Llywodraeth Cymru, y Cwnsel Cyffredinol, Mick Antoniw, wedi dweud bod herio yn "annhebygol o lwyddo".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod hynny'n "gyfystyr â chwifio'r faner wen".

Beth yw HS2?

Fe gafodd prosiect HS2 ei gynllunio fel cynllun "Lloegr a Chymru" gan Drysorlys y DU.

Bwriad y cynllun oedd creu cysylltiadau rheilffordd cyflym rhwng Llundain a dinasoedd mawr yng nghanolbarth a gogledd Lloegr.

Fis Hydref, fe wnaeth y Prif Weinidog, Rishi Sunak, gyhoeddi ei fod yn diddymu rhannau o'r HS2 sy'n cysylltu gorllewin canolbarth Lloegr i Fanceinion a dwyrain canolbarth Lloegr.

Fe wnaeth hefyd gyhoeddi cynllun i wneud rheilffordd gogledd Cymru yn un trydan, gan ddefnyddio'r £1bn a oedd eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer yr HS2.

Yr hyn sy'n weddill o gynllun HS2 yw'r rhan rhwng Llundain a Birmingham, sy'n amcangyfrif i gostio hyd at £66.6bn, yn ôl cadeirydd gweithredol y cynllun.

Dim budd i Gymru o'r cynllun

Mae galwadau traws-bleidiol i addasu rhan gyntaf y cynllun fel bod Cymru yn medru cael budd o gyllid allai fod werth cymaint â £4 biliwn.

Mae Mr Antoniw wedi dweud nad yw mynd i'r llys i geisio cael cyllid ar gyfer Cymru yn mynd i ddigwydd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi annog arweinydd newydd Llafur Cymru, Vaughan Gething, i "ailystyried" y penderfyniad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi dweud eu bod yn gyfrifol am "fuddsoddi'n fawr mewn rheilffyrdd ar draws Lloegr a Chymru, felly'n gwario'r arian yng Nghymru yn hytrach na rhoi'r arian i Lywodraeth Cymru i wneud".

Mae ysgrifenyddion Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.